Mae albwm newydd y grŵp o Fôn, Calfari, wedi’i ryddhau’n ddigidol.
Dyma ydy albwm cyntaf y grŵp, ac mae’n dilyn dau EP sydd eisoes wedi’u rhyddhau gan Calfari sef Nôl ac Ymlaen, a ryddhawyd yn 2015, a Tân a ryddhawyd yn 2016. Nôl ac Ymlaen oedd enillydd categori ‘Record Fer Orau’ Gwobrau’r Selar 2015.
Recordiwyd y casgliad gyda’r cynhyrchydd Rich Roberts yn Stiwdio Ferlas ym Mhenrhyndeudraeth, gan ddechrau ar y gwaith nôl ym Mehefin 2016.
Bu’r Selar yn sgwrsio gyda’r band am y newid cyfeiriad yn eu sŵn rhyw fis yn ôl.
Am y tro, bydd yr albwm yn cael ei ryddhau’n ddigidol yn unig ac fe fydd ar gael ar siopau spotify, itunes, applemedia a’r mannau arferol eraill.
Bwriad y band ydy rhyddhau copïau caled o’r albwm yn y misoedd nesaf.
Gigs Calfari
14 Gorffennaf: Gig Urdd Ceredigon, Llanbed
16 Gorffennaf: Electric Wave Festival, Conwy
23 Gorffenaf: Penmaenau Farm, Y Sioe Frenhinol
5 Awst (Dydd): Llwyfan Y Maes, Steddfod Genedlaethol
5 Awst (Nos): Gig Cymdeithas yr Iaith, Bodedern
7 Awst: Gig wythnos ‘Sdeddfod, Iorweth Arms, Bryngwran
8 Awst: Caffi Maes B, ‘Steddfod Genedlaethol
10 Awst: Maes B, ‘Steddfod Genedlaethol