Albwm cyntaf OSHH ar gael i’w rag-archebu

Mae Recordiau Blinc wedi cyhoeddi bod albwm newydd yr artist OSHH ar gael i’w rag-archebu arlein nawr.

Hon fydd record hir gyntaf unigol y cerddor o Fôn, Osian Howells, a bydd yn cael ei rhyddhau’n swyddogol ar 6 Hydref.

“Mae’r lleisiau crynedig a’r platiau tectonig ymgripiol o ddatseinedd a synth, yn creu darn annisgwyl o bop ewfforig o albwm gyntaf OSHH.. mae OSHH wedi adeiladu albwm o alawon dyfodolaidd a threfniadau uchelgeisiol sy’n cynyddu yn eich dychymyg” meddai Recordiau Blinc wrth gyhoeddi’r newyddion.

Mae Osian wrth gwrs yn wyneb a llais cyfarwydd i ni gan ei fod yn aelod o Yr Ods, ac hefyd yn aelod o Yucatan.

Fe ddechreuodd ryddhau cynnyrch ei hun nôl yn 2014 trwy recordiau Blinc – rhyddhawyd ‘All Mistakes’, ‘Lleisiau’n Galw’ a ‘Dal i Frwydro’ ganddo a hefyd ‘Rhywbeth Gwell’ a gafodd ei chynnwys ar albwm aml-gyfrannog O’r Nyth, a ryddhawyd yn 2013.

Fe recordiwyd yr albwm newydd yn stiwdio Crychddwr yn Llanllyfni, gyda’r cynhyrchydd Kevin Jones.

Mae band byw OSHH hefyd yn cynnwys nifer o enwau amlwg sef Gwion Llywelyn (Villagers, Race Horses, Yr Ods) ar y drymiau, Griff Lynch (Yr Ods), Ioan Llywelyn (Carlotta) ac ei frawd bach Guto Howells (Yr Eira).

Artist arall fydd i’w chlywed ar yr albwm fydd yr anhygoel Casi a’i llais nodweddiadol.

Mae rhag-flas o’r albwm ar gael ar SoundCloud ers mis ar ffurf y trac ‘Alive’.