Mae albwm y grŵp cerddoriaeth byd newydd o Gymru ac India, Khamira, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf heddiw (2 Mawrth). Mae’r albwm newydd yn rhannu enw’r grŵp, ac yn cael ei ryddhau ar label Recordiau Bopa.
Mae cerddoriaeth Khamira yn gymysgedd diddorol o alawon gwerin o Gymru, cerddoriaeth glasurol India, jazz a roc.
Efallai y bydd cerddorion Cymreig Khamira yn gyfarwydd i rai sy’n darllen – mae Tomos Williams, Mark O’Connor, Dave Jones ac Aidan Thorne yn aelodau o’r band jazz/gwerin adnabyddus, Burum. Ac yn wir, fe ddaeth Khamira (sef ‘burum’ yn Hindi) i fodolaeth ar ôl taith gan Burum i India yn 2014.
I dorri stori hir yn fyr, roedd Burum yn cynnal gweithdy yng ngholeg y Global Music Institute yn Delhi – cyfarwyddwr y coleg yw Aditya Balani, sy’n un o aelodau Indiaidd Khamira bellach.
Yn dilyn hynny, awgrymodd Aditya bod Suhail Yusuf Khan yn cydweithio ar brosiect Khamira ac, yn ei dro, fe awgrymodd bod Vishal Nagar yn ymuno ar y tabla. Mae’r tri cherddor o India yn uchel iawn eu parch yn eu mamwlad a ledled y byd yn eu maes.
Recordiwyd y casgliad yn Red Kite Studios, Llanwrda, yng nghanolbarth Cymru, yn ystod haf 2016 ac mae’r gymysgedd o alawon gwerin Cymreig, cerddoriaeth glasurol India a dylanwadau amrywiol o ffync tywyll Miles Davis yn y 70au a cherddoriaeth sinematig Pat Metheny yn creu rhywbeth unigryw a diddorol iawn.
Ac mae digon o gyfle i chi glywed y cyfuniad diddorol yma o synau’n fyw gan bod Khamira yn mynd ar daith o ganolfannau celfyddydau Cymru ddiwedd mis Mai.
Mae albwm Khamira ar werth ar safle Bandcamp y grŵp nawr.
Dyddiadau taith Khamira yng Nghymru:
22 Mai – Theatr Borough, Y Fenni
23 Mai – Y Neuadd Les, Ystradgynlais
24 Mai – Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd
25 Mai – Celfyddydau Span, Narberth
26 Mai – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
27 Mai – Galeri, Caernarfon (yn cynnwys gweithdy cyn y gyngerdd)
28 Mai – Canolfan Ucheldre, Caergybi
29 Mai – Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
31 Mai – Gwŷl Lenyddol y Gelli Gandryll