Mae’r artist pop electroneg, Ani Glass, wedi datgelu i’r Selar ei bod wrthi’n gweithio ar ei halbwm cyntaf ar hyn o bryd.
Rhyddhaodd Ani ei EP cyntaf, Ffrwydrad Tawel, yn mis Ebrill eleni ar Recordiau Neb, cyn mynd ati i gyhoeddi fersiwn newydd o’r casgliad byr, gyda’r caneuon wedi eu hail-gymysgu gan artistiaid amrywiol, ym mis Awst. Roedd croeso mawr i’r ddwy record, gyda phob copi wedi eu gwerthu yn ôl y label.
Ani Glass ydy prosiect unigol Ani Saunders, sef cyn-aelod The Pipettes, a hi ei hun fydd yn recordio a chynhyrchu’r albwm newydd i gyd.
Cyfanwaith cyson a chryno
Dywed Ani ei bod wedi bod wrthi’n gweithio ar yr albwm ers rhai wythnosau, yn casglu syniadau a synau, ond bod “y gwaith caled o greu cyfanwaith yn dal i fod o fy mlaen.”
“Dwi ddim ar frys i orffen, fy nod yw creu cyfanwaith cyson a chryno, ond hoffwn feddwl y byddaf yn dechre gweld y goleuni erbyn dechrau’r Haf”.
Wrth sôn am y math o gerddoriaeth sydd ar y ffordd, mae’n ei ddisgrifio mewn tri gair – diddorol, hyderus ac atmosfferig.
Bydd Ani’n cyhoeddi’r albwm ar Recordiau Neb unwaith yn rhagor.
Mae’r amryddawn Ani hefyd yn adnabyddus oherwydd ei gwaith celf gweledol, a dywed ei bod wedi bod yn datblygu ‘gwaith collage’ yn ddiweddar ar gyfer clawr yr albwm “ac wir wedi mwynhau’r broses”.
Dywed ei bod am barhau â’r gwaith a’i bod yn gobeithio creu delweddau ddiddorol ar gyfer y clawr.