Mae Gŵyl Arall yn digwydd yng Nghaernarfon y penwythnos yma ac mae’r rhaglen yn cynnwys mwy o gerddoriaeth gyfoes nag erioed o’r blaen.
Gŵyl sy’n cyfuno amrywiaeth o gelfyddydau ydy Gŵyl Arall, ac fe gynhelir sesiynau a digwyddiadau mewn lleoliadau amrywiol o gwmpas tref Caernarfon. Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 6 a 9 Gorffennaf eleni.
Mae cerddoriaeth bob amser wedi cael lle amlwg yn yr ŵyl, ac mae hynny’n amlycach nag erioed eleni.
Gwerin, cyfoes ac electro
Bydd yr arlwy gerddorol yn agor gyda gig yn Neuadd y Farchnad ar nos Wener 7 Gorffennaf wrth i Yr Eira lansio ei halbwm cyntaf, Toddi. Bydd Mellt, Y Cledrau a Pyroclastig yn cefnogi.
Bydd prynhawn Sadwrn 8 Gorffennaf yn gweld ‘Prynhawn Gwerin’ yn Neuadd y Farchnad gyda rhai o enwau cerddoriaeth gwerin gorau Cymru’n perfformio rhwng hanner dydd a 5:30. Bydd Cowbois Rhos Botwnnog, Gwyneth Glyn, Gwilym Bowen Rhys, Patrobas, Elidyr Glyn a Beth Celyn oll yn perfformio.
Mae’r gerddoriaeth yn parhau yn yr un lleoliad gyda’r hwyr ar y nos Sadwrn wrth i Candelas arwain lein-yp sy’n cynnwys Uumar, CaStLeS ac Alffa.
Prynhawn o gerddoriaeth electroneg sydd ar y dydd Sul gyda Panda Fight, Endaf, Osian Howells, Eadyth ac Ani Glass i gyd ar lwyfan Neuadd y Farchnad.
Er cystal yr arlwy, mae’n siŵr mai uchafbwynt y prynhawn fydd atgyfodiad y grŵp elecro-pop o’r 1980au, Ffenestri. Roedd Ffenestri yn boblogaidd rhwng tua 1984 a 1988, a’r aelodau oedd Geraint James ac yr actor a chyflwynydd Martyn Geraint. Bydd Sion Owens (Y Bandana ac Uumar) yn ymuno ar y bas ar gyfer y perfformiad, ynghyd â Bryn James, mab Geraint, ar y gitâr.
Bu’r Selar yn sgwrsio â Martyn Geraint wythnos diwethaf, ac fe ddwedodd bod y grŵp wedi bod yn ymarfer yn galed ac yn edrych ymlaen yn fawr am y gig.
Bydd gig i gloi yr ŵyl ar y nos Sul yng Nghlwb Canol Dre Caernarfon, gyda Plu ac Alys Williams.
Arlwy gerddorol Gŵyl Arall:
Nos Wener 7 Gorffennaf – Yr Eira, Mellt, Y Cledrau, Pyroclastig (Neuadd y Farchnad)
Pnawn Sadwrn 8 Gorffennaf – Prynhawn Gwerin Gŵyl Arall: Cowbois Rhos Botwnnog, Gwyneth Glyn, Gwilym Bowen Rhys, Patrobas, Elidyr Glyn, Beth Celyn (Neuadd y Farchnad)
Nos Sadwrn 8 Gorffennaf – Candelas, Uumar, CaStLeS, Alffa (Neuadd y Farchnad)
Pnawn Sul 9 Gorffennaf – Prynhawn Electronig Gŵyl Arall: Panda Fight, Endaf, Ffenestri, Osian Howells, Eadyth, Ani Glass (Neuadd y Farchnad)
Nos Sul 9 Gorffennaf – Alys Williams, Plu (Clwb Canol Dre)