Mae casgliad o ganeuon y cerddor amgen o Aberteifi, Malcolm Neon, wedi’i ryddhau ar label Vinyl on Demand o’r Almaen yr wythnos hon.
Soniodd Y Selar am y ffaith bod Vinyl ond Demand yn bwriadu rhyddhau’r casgliad rai misoedd yn ôl, a bellach mae’r LP dwbl wedi gweld golau dydd.
Roedd Malcolm Neon, sydd erbyn hyn yn artist celf amlwg sy’n defnyddio’r enw Malcolm Gwyon, yn fywiog iawn reit ar ddechrau’r 1980au gan ryddhau cyfres o EPs ar ei label ei hun, Casetiau Neon. Bu iddo hefyd gyhoeddi cerddoriaeth gyda phrosiect arall, Meibion Mwnt, ble roedd yn cydweithio a Wyn Jones o Ail Symudiad.
Amgen ac arloesol
Roedd sin amgen ddifyr yn Aberteifi ar ddechrau’r 1980au, ac roedd Casetiau Neon yn gyfrifol am gyhoeddi caneuon cynnar Datblygu.
Teg dweud bod cerddoriaeth Malcolm Neon yn ddigon arloesol yn y Gymraeg ar y pryd, a hawdd gweld dylanwad y grŵp arbrofol o’r Almaen, Kraftwerk, ar ei waith. Efallai ei bod yn addas felly bod label Almaenig wedi mynd ati i ail-ryddhau cerddoriaeth Neon.
Mae Vinyl on Demand yn label sy’n arbenigo mewn atgyfodi cerddoriaeth prin, ac yn arbennig cerddoriaeth arbrofol ac amgen o’r 80au cynnar. Hawdd gweld sut bod cerddoriaeth Malcolm Neon wedi apelio felly – mae’n ticio’r bocsys i gyd!
Os ydach chi isho bachu copi o’r albwm, sydd hefyd yn cynnwys sengl saith modfedd o ‘Seren China’ gan Meibion Mwnt, yna bydd rhaid i chi frysio – dim ond nifer cyfyngedig o 500 copi sydd ar gael.