Brython Shag – Pobl Gorllewinol Hapus

Rhywbeth allech chi fod wedi colli yng nghanol holl fwrlwm yr Eisteddfod wythnos diwethaf oedd y ffaith bod Brython Shag wedi rhyddhau sengl newydd.

‘Pobl Gorllewinol Hapus’ ydy enw’r sengl newydd ac fe’i rhyddhawyd ar y dydd Gwener cyn yr Eisteddfod, sef 4 Awst.

Dyma gynnyrch diweddaraf y grŵp pedwar aelod a ryddhaodd eu halbwm cyntaf, sy’n rhannu enw’r grŵp, yn 2016.

Grŵp o ardal Blaenau Ffestiniog ydy Brython Shag ac bydd yr aelodau yn gyfarwydd i unrhyw un sydd wedi bod yn dilyn cerddoriaeth Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r prosiect yn gweld Gai Toms a Ceri Cunnington, oedd ill dau yn aelodau amlwg o Anweledig, yn cydweithio unwaith eto ynghyd â Deian Jones, gynt o Yr Anhygoel (band cyntaf Yws Gwynedd) a band Mr Huw, a Jason Hughes, gynt o Frizbee.

Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn rai prysur i Gai Toms yn enwedig wrth iddo ryddhau ei albwm diweddaraf, Gwalia, dair wythnos yn ôl yn Sesiwn Fawr Dolgellau.

Roedd cyfle i ddal y grŵp ar lwyfan perfformio yr Eisteddfod Genedlaethol nos Iau diwethaf os nad oeddech chi yn gig y Pafiliwn. Byddai ambell un craff wedi sylwi bod y drymiwr, Jason, yn crwydro maes yr Eisteddfod mewn sling yn ystod y dydd o ganlyniad i anaf cas i’w fraich, ond chwarae teg i’r boi fe frwydrodd trwy’r boen i wneud y gig. Parch i J!