Calan yn teithio o amgylch y byd

Mae’n gyfnod cyffrous dros ben i’r band gwerin traddodiadol Cymraeg, Calan, wrth iddyn nhw adael Cymru fach am UDA fel rhan o’u taith o amgylch y byd.

Gadawon nhw ddydd Mercher ar gyfer y daith hir o saith wythnos. Mae rhestr hirfaith o ddyddiadau perfformio ganddynt, gan gychwyn wrth perfformio deuddeg gig yn UDA, cyn symud ymlaen i Bortiwgal, wedyn China, Gwlad y Basg a Lloegr cyn gorffen yn Nenmarc efo pum perfformiad.

Daw’r daith yma ar ôl blwyddyn brysur i’r grŵp a ryddhaodd eu pedwerydd albwm, Solomon, yn gynharach eleni ar label Sain. Cafodd y record honno ei cynnwys ar restr hir gwobr ‘Albwm y Flwyddyn’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Cyn i 2017 ddirwyn i ben, bydd Calan hefyd yn chwarae un gig nôl yng Nghymru fach hefyd, a hynny yn Stiwdio Acapela ym Mhentyrch ger Caerdydd ar 8 Rhagfyr.

Dyddiadau llawn taith Calan:

09/14/2017 – Daytrotter Davenport IA, UDA

15-16/09/2017 – Celtic Festival and Highland Games of the Quad Cities Davenport, IA, UDA

17/09/2017 – Northminster Presbyterian Church, IN, UDA

18/09/2017 -Lawrence University Appleton, WI, UDA
19/09/2017 – Cadzan, IL
21/09/2017 – The Saint, NJ, UDA
22-23/09/2017 – Celtic Classic, Bethlehem, PA, UDA
24/09/2017 – Empire State Railway Museumt, Phoenicia, NY, UDA
28/09/2017 – Ashkenaz, Berkeley CA
29/09/2017-10/1/2-Celtic Festival Grass Valley, CA, UDA
1-6/10/2017 – West Branch Arts Consortium, PA UDA
07/10/2017 -Cultural Center, Charleston, WV, UDA
11-12/10/2017 – Costa Del Folk, Portiwgal
17/10/2017 -Beijing Concert Hall, Beijing, China
28/10/2017 – Musika Bizian Festival of Galdakao, Gwlas y Basg
3/11/2017– London Folk & Roots Festival at The Slaughtered Lamb, Llundain, Lloegr
22/11/2017 – Baltoppen LIVE, Ballerup, Denmarc
24/11/2017 – Thorøhuse, ger Assens, Denmarc
25/11/2017 – Culture House Gimle, Føllenslev, Denmarc
26/11/2017 – Wintercoat Brewery, Sabro ved Aarhus, Denmarc
27/11/2017- Ishøj Culture House, Ishøj, Denmarc
8/12/2017– Acapela Studio, Pentyrch, Caerdydd, Cymru
9/12/2017 – The Hive, Amwythig, Lloegr
10/12/2017 – Worthing Connaught Theatre, Lloegr