Mae Candelas, HMS Morris ac Eadyth ymysg yr artistiaid sy’n perfformio yng Ngŵyl Fach y Fro ar Ynys y Barri fis Mehefin.
Menter Bro Morgannwg sy’n gyfrifol am yr ŵyl ac fe fydd yn cael ei chynnal am y drydedd flwyddyn yn olynol ar ddydd Sadwrn 17 Mehefin
Ymysg y prif enwau cerddorol sy’n perfformio ynn Ngŵyl Fach y Fro 2017 mae Bryn Fôn a’r Band, Candelas, HMS Morris, Eady Crawford, Band Nantgarw a Band Jazz Rhys Taylor a bydd y cyfan yn cael ei gyflwyno gan y DJs Elan Evans a Bethan Elfyn.
Bydd stondinau cynnyrch a chrefftau Cymreig gan ddarparwyr lleol yn yr ŵyl yn ogystal ag ardal chwarae, beiciau bybls, sgiliau syrcas, wâc welis ar y traeth, gweithdai a gweithgareddau amrywiol gan bartneriaid Cymraeg yr ardal gan gynnwys Canolfan Cymraeg Bro Morgannwg, Cymraeg i Oedolion, Cymraeg i Blant, Mudiad Meithrin ac Adran Chwaraeon yr Urdd.
Mae’r ŵyl yn cynnwys bar bydd yn cael ei redeg gan y bragdy lleol Tomos & Lilford, a bwyd wedi’i arlwyo gan Grazing Shed, Pizza Ffwrnes a Bay 5.
Mae Gŵyl Fach y Fro yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, ac yn ôl y trefnwyr yn cael ei chynnal mewn lleoliad unigryw, cyhoeddus a phoblogaidd ar Ynys y Barri, gan ei wneud yn ddigwyddiad hynod hygyrch i bawb; boed yn siaradwr Cymraeg, neu’n cael eu profiad cyntaf o’r iaith a’r diwylliant. Mae’r digwyddiad yn dechrau am 11.30am ac yn gorffen am 7pm.
Mae gwybodaeth lawn am Ŵyl Fach y Fro ar wefan Menter Bro Morgannwg.