Carwyn Ellis yn falch o lwyddiant Bendith

Bydd y rhan fwyaf sy’n darllen yr erthygl yma’n gwybod mai Bendith oedd enillydd gwobr Albwm Gymraeg y flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Bydd y rhai sy’n darllen Y Selar, a gwefan Y Selar yn rheolaidd yn gwybod pwy yn union ydy Bendith hefyd, ond i’r rhai sydd ddim mor selog dylid egluro mai prosiect Carwyn Ellis o’r grŵp Colorama, ynghyd â thriawd Plu ydy Bendith.

Rhyddhawyd albwm hyfryd gan y fenter gydweithredol ym mis Hydref llynedd, ac er y gystadleuaeth frwd gan albyms ardderchog eraill ar y rhestr fer eleni, does dim amheuaeth bod y record hir yn llawn haeddu’r teitl.

Balchder

Roedd aelodau Plu, Marged, Elan a Gwilym, yn bresennol i dderbyn y wobr yn y seremoni gyhoeddi yn Tŷ Gwerin ar faes yr Eisteddfod brynhawn Gwener, ond doedd dim modd i Carwyn fod yno gan ei fod yn teithio dramor gydag Edwyn Collins ar y pryd.

Ond, mae’r Selar wedi llwyddo i ddal Carwyn am air ers y Steddfod er mwyn cael ei ymateb i’r wobr, ac mae wedi mynegi ei falchder o gipio’r wobr gyda phrosiect sy’n agos iawn at ei galon

“Rwy’ mor falch. O’n i bant yn gweithio yn Sbaen pan glywais i, ac roedd hi’n syndod mawr i ddweud y gwir…synod pleserus iawn.” Dyma’r tro cyntaf i mi ennill gwobr fel hyn yn fy ngyrfa.”

Dywed Carwyn ei fod yn gobeithio bydd y wobr yn sbarduno mwy o bobl i fynd ati i wrando ar y record, ond mai nid dyna’r peth pwysicaf iddo chwaith.

“Byse’n neis, ond y peth pwysicaf i mi oedd y broses o wneud y record ei hun – creu’r caneuon a chael cydweithio gydag Elan, Marged a Gwilym. Maen nhw’n hollol brilliant.”

“Mae’r teimladau a’r straeon ar yr albwm yn gwmws fel o’n i’n moyn a dyna sy’n golygu fwyaf i mi. Mae’r ffaith bod pobl eraill yn hoffi ein gwaith ni’n fonws mawr.”

Gobaith am fwy o Fendith

Wrth dderbyn y wobr ddydd Gwener fe awgrymodd Elan Marged a Gwilym eu bod nhw’n awyddus i gydweithio ymhellach gyda Carwyn, ac eu bod yn gobeithio gwneud mwy gyda Bendith. Er yn cydnabod bod prysurdeb holl aelodau Bendith yn gwneud hynny’n heriol, mae Carwyn wedi ategu eu sylwadau.

“Sai’n gwybod eto – mae pawb mor brysur mae’n anodd i ddweud, ond dwi wedi mwynhau pob eiliad [gyda Bendith] hyd yn hyn, felly pam lai.”

Yn ogystal â rhyddhau’r albwm ym mis Hydref 2016, bu i’r grŵp grŵp gyhopeddi EP ym mis Chwefror eleni.

Dyma’r pedwerydd tro i’r Eisteddfod ddyfarnu gwobr ‘Albwm Cymraeg y Flwyddyn’, ac mae Bendith yn dilyn ôl traed The Gentle Good (2014), Gwenno (2015) a Sŵnami (2016) wrth gipio’r wobr.

Dyma’r rhestr fer yn llawn ar gyfer teitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod eleni:

· Band Pres Llareggub – Kurn

· Bendith

· Calan – Solomon

· Castles – Fforesteering

· Gwilym Bowen Rhys – O Groth y Ddaear

· Meinir Gwilym – Llwybrau

· Mr Huw – Gwna dy Feddwl i Lawr

· Ryland Teifi – Man Rhydd

· The Gentle Good – Ruins / Adfeilion

· Yws Gwynedd – Anrheoli

Bydd prosiect amlycaf arall Carwyn, Colorama, yn rhyddhau eu halbwm newydd, Some Things Just Take Time, ar 1 Medi, ac yn perfformio eu gig cyntaf ers tair blynedd yng Nghlwb Cymry Llundain ar 10 Medi.