Cau pleidlais Gwobrau’r Selar

Mae pleidlais Gwobrau’r Selar wedi cau am flwyddyn arall, gyda ffigwr ardderchog o 1135 o bobl yn bwrw pleidlais dros y 12 categori eleni.

Bydd y sylw nawr yn troi at y rhestrau byr o dri ar gyfer pob categori, a bydd y ddau gategori cyntaf sef ‘Cân Orau’ a ‘Hyrwyddwr Gorau’ yn cael eu cyhoeddi ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru nos fory, yn ogystal ag ar gyfryngau Y Selar.

Yn ôl yr arfer, bydd criw Ochr 1 yn cynhyrchu fideos hyrwyddo arbennig i gyhoeddi pob rhestr fer, a bydd rhain yn cael eu rhannu ar Facebook a Twitter Y Selar ac Ochr 1.

Bydd rhestrau byr y 10 categori arall yn cael eu cyhoeddi’n raddol bob nos Fercher rhwng nawr a’r wythnos yn arwain at y Gwobrau yn Aberystwyth ar 18 Chwefror.

“Rydan ni wrth ein bodd gyda’r nifer sydd wedi pleidleisio eleni” meddai Uwch Olygydd Y Selar a threfnydd Gwobrau’r Selar, Owain Schiavone.

“Mae gweld dros 1000 o bobl yn pleidleisio’n rhoi llawer iawn o hygrededd i’r Gwobrau, ac mae’n hwb mawr i bawb oedd ar y rhestrau hir ac yn enwedig y rhai sy’n cyrraedd y rhestrau byr. Mae’n profi bod llawer iawn o ddiddordeb yn y sin ar hyn o bryd a bod pobl yn gweld gwerth i’r Gwobrau.”

Bydd Gwobrau’r Selar yn digwydd yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar nos Sadwrn 18 Chwefror, ac mae’r tocynnau ar werth nawr. Mae tocynnau’n gwerthu’n gyflym, ac mae disgwyl iddyn nhw werthu allan cyn y noson, felly’r cyngor ydy i brynu’n gynnar i osgoi siom, yn enwedig gan bod modd manteisio ar y pris cynnar o £12 ar hyn o bryd.

Mae’n fwriad i ryddhau gwybodaeth am lein-yp Gwobrau’r Selar cyn diwedd yr wythnos, a bydd ambell sypreis bach arall yn cael eu datgelu dros y dyddiau nesaf!