Chwalfa’n chwalu

Mae’r grŵp o Fangor, Chwalfa, wedi dweud wrth Y Selar eu bod nhw wedi penderfynu dod â’r band i ben.

Perfformiodd y grŵp am y tro olaf yn eu gig yng Nghaffi Maes B ar faes Eisteddfod Môn ddydd Llun, 7 Awst.

Er hynny, dywed ffryntman y grŵp, Elis Derbyshire mai nid dyna’r olaf y byddwn ni’n clywed gan aelodau Chwalfa gydag awgrym y gwelwn ni Elis yn rhyddhau deunydd yn unigol, neu gyda’r band dan enw gwahanol.

“Dio ddim y diwedd” meddai Elis wrth Y Selar wrth sgwrsio ddiwedd wythnos y Steddfod.

“Gig dydd Llun [yng Nghaffi Maes B] oedd y tro cyntaf i ni berfformio heb unrhyw beth arall i ddilyn, dim gigs nac unrhyw fwriad mynd ati i recordio. Felly mi wnaethon ni benderfynu bod hi’n amser i Chwalfa ddod i ben.”

“Mae ganddom ni ganeuon sydd heb eu recordio, felly ella y byddwn ni’n rhoi rheiny allan yn y dyfodol, ond fydd o ddim fel ‘Chwalfa’.”

Dywed Elis ei fod yn ysgrifennu llawer o gerddoriaeth ei hun ar hyn o bryd, ac er nad yw wedi penderfynu beth i wneud â rhain, roedd yr amser yn iawn i Chwalfa ddod i ben.

Rhyddhaodd Chwalfa gwpl o senglau, yn ogystal ag EP ‘Byw’ oedd yn cynnwys 5 trac yn 2015.

Dyma ‘Rhydd’ o’r EP gan Chwalfa: