Criw ifanc yn sefydlu Gigs y Gilfach Ddu

Mae criw o bobl ifanc o ardal Dyffryn Peris wedi ymuno i drefnu gigs cerddorol yn ardal Llanberis o dan yr enw Gigs y Gilfach Ddu.

Gwnaed y penderfyniad wrth sylwi bod diffyg gigs yn yr ardal, a gweld bod cyfle i drefnu mwy o ddigwyddiadau cerddorol yn y fro. O ganlyniad, mae’r criw wedi mynd ati i drefnu gigs o dan enw Gigs y Gilfach Ddu “gan dynnu ar hanes a dylanwad y chwarel ar gerddoriaeth yr ardal”.

Bydd gig cyntaf Gigs y Gilfach Ddu yn cael ei chynnal yng Nghlwb Llanberis 28 Rhagfyr hefo chwip o lein-yp yn cynnwys y bandiau lleol Alffa, Gwilym ac Y Reu.

Un o’r trefnwyr ydy Marged Rhys, aelod o Plu, ac un sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth gyfoes Gymraeg.

“Rydw i wedi gwirioni bod Caernarfon wedi troi’n ‘hwb’ ar gyfer gigs Cymraeg” meddai Marged.

“Gyda Nosweithiau 4a6 yn trefnu digwyddiadau di-ri yng Nghlwb Canol Dre, Neuadd y Farchnad yn trefnu gigs gyda’r mawrion fel Bryn Fôn a Yws Gwynedd o bryd i’w gilydd, a Copa yn mynd ati hefyd i drefnu gigs gyda’r hen ffefrynnau fel Jarman a Maffia.

“Ond roeddwn i’n poeni bod yr ‘hwb’ yma ar draul ardaloedd eraill cyfagos oedd yn arfer bod â’u sins cerddoriaeth fyw fyrlymus.”

Bandiau adnabyddus o Ddyffryn Peris

Mewn datganiad gan y criw dywed Gigs y Gilfach Ddu bod bandiau adnabyddus wedi hanu o Ddyffryn Peris, gan gynnwys Derwyddon Dr Gonzo a’r Heights “oedd yn denu cynulleidfaoedd mawrion dros Gymru a thu hwnt”.

Mae’r Ysgol Uwchradd hefyd ym Mrynrefail wedi chware ei ran yn y sin gerddorol yng Nghymru yn cynhyrchu cerddorion gwych fel buddugwyr Brwydr y Bandiau 2017, Alffa, ond ei bod hi’n “siom nad oes llawer o gyfleoedd i fandiau ifanc fireinio eu crefft yn lleol”.

Mae Gethin Griffiths a Chris Roberts, sy’n rhedeg y blog poblogaidd am gerddoriaeth Cymraeg Sôn am Sîn, yn ran o’r cynllun ac yn gyn-ddisgyblion Ysgol Brynrefail.

“Rydym yn falch iawn o fod yn ran o’r criw trefnu Gigs y Gilfach Ddu” meddai’r ddeuawd.

“Yn llwch hen gigs y Bedol a’r Fricsan, lleoliadau sydd wedi cau neu’n newid dros y blynyddoedd diwethaf, rydym yn gobeithio bydd Gigs y Gilfach Ddu yn adfywio’r sîn gerddoriaeth fyw yn y fro.”

Bydd Gigs y Gilfach Ddu yn cynnal eu gig cyntaf yng Nghlwb Cymdeithasol Llanberis 28 Rhagfyr â’r bandiau lleol, Alffa a Gwilym yn cefnogi un o fandiau mwyaf cyffrous y sin sef Y Reu.