Mae’r grŵp pop-electronig retro, Panda Fight, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau eu hail sengl ar ddydd Sadwrn 1 Ebrill.
Mae ‘Dawel yw y Dydd’ yn dilyn eu sengl gyntaf, ‘Tonnau’ a ryddhawyd ddechrau mis Ionawr a heb os yn cynnig sŵn gwahanol i unrhyw beth arall sydd o gwmpas yn y Gymraeg ar hyn o bryd.
Bydd y sengl yn cael ei lansio’n swyddogol mewn gig yn Gassy Jack’s yng Nghaerdydd ar nos Sadwrn 1 Ebrill, gyda pherfformiad gan Panda Fight ynghyd â gwesteion arbennig.
Mae’r grŵp sy’n cynnwys dau aelod, Alun Reynolds a Sara Davies wedi datgelu bod albwm ar y ffordd ganddyn nhw ac y bydd ‘Tonnau’ a ‘Dawel yw y Dydd’ yn ymddangos ar y casgliad. Hunllef y Nos fydd enw’r albwm.
“Roeddem moen i’r record hyn i fod yn wahanol ac yn fwy edgy i beth sydd allan yn y sin ar hyn o bryd gan rhoi vibe mwy 80au/retro” meddai Sara ac Alun.
“Allwn ni ddim aros i gigio mwy ac i ryddhau’r albwm.”
Mae sengl ‘Dawel yw y Dydd’ yn cael ei ryddhau ar label Recordiau Brathu ar 1 Ebrill.