Unwaith eto eleni mae cylchgrawn Y Selar yn cydweithio â’r Urdd i lunio rhaglen ardderchog o artistiaid Cymraeg cyfoes ar gyfer llwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd ym Mhen-y-bont.
Mae’r arlwy eleni’n cynnwys amrywiaeth o artistiaid sefydledig, rhai sydd wedi dechrau gwneud enw i’w hunain, yn ogystal â rhai addawol yn ein barn ni.
Bydd 30 o artistiaid ardderchog yn perfformio dros y 6 diwrnod rhwng 29 Mai a 3 Mehefin.
Y gantores ifanc addawol o Gaerdydd, Mabli Tudur, sy’n cael y pleser o agor y llwyfan am hanner dydd ar ddydd Llun y Steddfod, ac un o fandiau mwyaf y sin, Sŵnami, fydd yn cloi y cyfan ar y nos Sadwrn – adlewyrchiad o’r ystod eang o dalentau sy’n perfformio yn ystod yr wythnos.
Ymysg yr enwau amlycaf eraill sy’n perfformio mae Brigyn, Welsh Whisperer, Kizzy Crawford, The Gentle Good, Mellt a Gwilym Bowen Rhys.
Ond rydym yn falch iawn i allu cynnig cyfle hefyd i nifer o enwau anghyfarwydd sy’n awyddus i wneud eu marc, gan gynnwys Wigwam, Los Blancos ac Eadÿth.
“Rydym yn cydweithio â’r Selar ers rhai blynyddoedd bellach er mwyn ceisio rhoi lle teilwng i gerddoriaeth gyfoes ar faes Eisteddfod yr Urdd” meddai Branwen Williams,
“Yn raddol mae’r nifer o artistiaid wedi cynyddu, ac rydym wedi cyrraedd ffigwr o tua 30 y ddwy flynedd ddiwethaf, gan lwyddo i adlewyrchu’r amrywiaeth o artistiaid sy’n canu trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd.”
“Rydyn ni’n arbennig o falch o’r ystod eang o gerddorion sydd ar y prif lwyfan perfformio eleni, a bydd cyfle hefyd i weld setiau acwstig ar 3 llwyfan arall ar y maes, sef yn Y Cwtsh, ar lwyfan uned y Coleg Cymraeg ac ym Mhentre Mr Urdd.”
Gallwch weld y rhestr lawn o artistiaid sy’n perfformio bob dydd yn y fideo bach neis isod…