Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi lein-yp llwyfan perfformio y maes ym Modedern, Ynys Môn eleni, gyda llwyth o artistiaid cyfoes ymysg yr enwau.
Bydd y cyfan yn dechrau ar ddydd Sadwrn 5 Awst gyda Calfari’n rhannu llwyfan gydag enwau fel Wil Tân, John ac Alun, Calfari a’r Moniars.
Geraint Lovgreen a’r Enw Da ydy enw amlycaf y dydd Sul, ac mae comeback Daniel Lloyd a Mr Pinc yn parhau gyda set ar y dydd Llun.
Mae ‘na lein-yp cryf ar y dydd Mawrth yn cynnwys y grŵp ifanc gwych o Gaerfyrddin, Adwaith, ynghyd â Gai Toms a Cowbois Rhos Botwnnog.
Brwydr y Bandiau sy’n cael prif sylw’r dydd Mercher, gyda rownd derfynol y gystadleuaeth rhwng 16:00 ac 22:00 a dau gyn-enillydd, Chroma (2016) a Sŵnami (2011) yn perfformio bob ochr i’r cystadlu.
Yucatan a Brython Shag ydy prif artistiaid y dydd Iau, a does dim amheuaeth mai set Eden i gloi’r nos Wener ydy un o uchafbwyntiau’r wythnos.
Mae ‘na berfformiad arall diddorol ar y nos Wener, sef set ‘Lleden’, sy’n cynnwys y cerddorion Tara Bethan, Sam Roberts, Rhys Jones, Heledd Watkins a Wil Roberts. Bydd y grŵp yn perfformio set arbennig fel rhan o ddathliadau #maesb20, gan gynnwys caneuon gan fandiau o bob oed dros yr 20 mlynedd ddiwethaf – Yws Gwynedd, Genod Droog, Sibrydion, Swci Boscawen, Euros Childs a Jarman.
Mae dydd Sadwrn 12 Awst yn glamp o ddiwrnod gyda Fleur de Lys, Maffia Mr Huws, Candelas ac un o ferched enwocaf Môn, Elin Fflur i gyd yn perfformio.
Lein-yp Llwyfan y Maes Eisteddfod Genedlaethol 2017:
Sadwrn 5 Awst – Wil Tân, John ac Alun, Calfari, Moniars
Sul 6 Awst – Mônsŵn, Cordia, Geraint Lovgreen a’r Enw Da
Llun 7 Awst – Nantgarw, Gildas, Daniel Lloyd a Mr Pinc
Mawrth 8 Awst – Adwaith, Gwilym Bowen Rhys, Gai Toms, Cowbois Rhos Botwnnog
Mercher 9 Awst – Chroma, Brwydr y Bandiau (Gwilym, Eadyth, Jack Ellis, Alffa, Mabli Tudur, Mosco), Sŵnami
Iau 10 Awst – Mojo, Cadno, Rifleros, Omaloma, Yucatan, Brython Shag
Gwener 11 Awst – Mr Phormula, Band Pres Llareggub, HMS Morris, Alun Gaffey, #MaesB20: Lleden, Eden
Sadwrn 12 Awst – Band arall Hîmyrs, Ffracas, Fleur de Lys, Alys Williams, Maffia Mr Huws, Candelas, Elin Fflur