Cyhoeddi lein-yp Maes B 2017

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi lein-yp Maes B ar gyfer mis Awst 2017.

Tro Yws Gwynedd ydy hi i chwarae yn y prif slot yn hedleinio nos Sadwrn y Steddfod, gyda chefnogaeth gan Y Reu a HMS Morris.

Yr enwau amlwg sy’n llenwi prif slotiau’r nosweithiau eraill gyda Candelas yn hedleinio nos Fercher, Sŵnami ar y nos Wener ac wrth gwrs mae ‘na slot hedleinio i Bryn Fôn ar y nos Iau.

Yn ogystal â’r prif fandiau disgwyliedig, mae cyfle i rai o grwpiau ifanc mwyaf addawol y sin – Chroma, Ffracas a Hyll.

Mae’n flwyddyn fawr i Maes B gan bod y digwyddiad yn dathlu 20 mlynedd ers y Maes B cyntaf yn Eisteddfod Y Bala ym 1997.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg oedd yn gyfrifol am greu brand Maes B, ac am drefnu’r pedwar Maes B cyntaf yn Y Bala, Penybont, Llangefni a Llanelli, cyn i’r Eisteddfod ddechrau trefnu’r digwyddiad yn uniongyrchol yn Eisteddfod Dinbych 2002.

“Roedd yn bwysig iawn i ni gael lein-yps cryf eleni, gan ein bod ni’n dathlu #MaesB20” meddai Guto Brychan, trefnydd Maes B.

“Ac rwy’n credu ein bod ni wedi llwyddo i drefnu nosweithiau sy’n dangos y sîn ar ei gorau, gan gyfuno enwau hynod gyfarwydd gydag ambell fand mwy newydd.”

“Mae’n braf gallu gwneud hyn a rhoi cyfle i rai o’r bandiau mwy ifanc sy’n profi eu hunain wrth gigio o amgylch Cymru ymddangos ar brif lwyfan y sîn.”

“Yn sicr, byddwn yn edrych yn ôl dros yr ugain mlynedd ddiwethaf dros y misoedd nesaf, ond mae cyhoeddi ein lein-yps heno’n gyfle i ni edrych ymlaen a dathlu’r ffaith bod gennym gymaint o fandiau ac artistiaid arbennig yng Nghymru ar hyn o bryd.”

Lein-yps llawn Maes B 2017:

· Nos Fercher 9 Awst: Candelas, Ffug, Cpt Smith, Chroma;

· Nos Iau 10 Awst: Bryn Fôn a’r Band, Fleur de Lys, Calfari, Ffracas;

· Nos Wener 11 Awst: Sŵnami, Yr Eira, Ysgol Sul, Hyll;

· Nos Sadwrn 12 Awst: Yws Gwynedd, Y Reu, HMS Morris, Enillwyr Brwydr y Bandiau.

Bydd modd archebu tocynnau’r gigs ar wefan Maes B o ddydd Llun 3 Ebrill ymlaen.