Cyhoeddi manylion cyntaf Gwobrau’r Selar

Tydi amser yn hedfan?

Ydy, credwch neu beidio mae’n amser i ni ddechrau paratoi am un o uchafbwyntiau’r flwyddyn gerddoriaeth yng Nghymru – Gwobrau’r Selar!

Felly nodwch benwythnos 16-17 Chwefror 2018 yn eich dyddiaduron, gan mai dyma fydd dyddiad Gwobrau’r Selar.

Yn ôl yr arfer, Aberystwyth fydd canolbwynt amryw weithgareddau penwythnos y Gwobrau, gyda’r prif ddigwyddiad i’w gynnal unwaith eto yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar nos Sadwrn 17 Chwefror.

Byddwn ni’n rhyddhau mwy o wybodaeth gydag amser, ond yn ôl yr arfer, mae addewid o weithgareddau amrywiol i ddathlu’r sin gerddoriaeth Gymraeg trwy’r penwythnos, gan gynnwys digwyddiad i ddathlu cyfraniad enillydd ein gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’.

Mae cwpl o bethau i chi gadw golwg amdanyn nhw yn y dyfodol agos:

– Byddwn ni’n agor enwebiadau ar gyfer ein categorïau wythnos nesaf, felly byddwch yn barod gyda’ch cynigion

– Rydym unwaith eto’n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd am fod yn aelod o Banel Gwobrau’r Selar eleni – bydd ein deg panelwr yn helpu i ddewis rhestrau hir y gwahanol gategorïau (ac mae tocyn am ddim i’r gwobrau yn y fargen i chi!)

– Bydd yr enwebiadau’n cau ar ddiwedd mis Tachwedd, a’r bleidlais gyhoeddus yn agor ganol mis Rhagfyr.

Yn y cyfamser, rydym wrthi’n llunio rhestr lawn o gynnyrch Cymraeg sydd wedi’i ryddhau yn ystod 2017 i’w hystyried ar gyfer categorïau ‘Record Hir Orau’ a ‘Record Fer Orau’ y Gwobrau. Os oes ‘na unrhyw beth o gwbl ar goll, plîs cysylltwch a ni – yselar@live.co.uk

Dyma ddigwyddiad Facebook Gwobrau’r Selar – nodwch eich diddordeb i weld y manylion diweddaraf pan maen nhw’n cael eu rhyddhau.