Mae’r ‘Steddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu rhestr fer ar gyfer gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni,
Dyma’r pedwerydd tro i’r wobr gael ei chyflwyno ac fe fydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yng Nghaffi Maes B ar faes y ‘Steddfod ddydd Gwener 11 Awst.
Syniad y wobr ydy dathlu’r amrywiaeth o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei gyhoeddi’n flynyddol, boed yn gerddoriaeth cyfoes, gwerin, glasurol neu arall. Wedi dweud hynny, mae’n deg dweud mai cerddoriaeth gyfoes sy rheoli’r rhestr fer o 10 albwm eleni, er bod lle i ambell record fwy gwerinol hefyd.
Dyma’r rhestr lawn:
· Band Pres Llareggub – Kurn
· Bendith
· Calan – Solomon
· Castles – Fforesteering
· Gwilym Bowen Rhys – O Groth y Ddaear
· Meinir Gwilym – Llwybrau
· Mr Huw – Gwna dy Feddwl i Lawr
· Ryland Teifi – Man Rhydd
· The Gentle Good – Ruins / Adfeilion
· Yws Gwynedd – Anrheoli
Rheithgor o bobl sy’n ymwneud â cherddoriaeth Gymraeg mewn gwahanol ffyrdd yn gyfrifol am ddewis y rhestr fer o ddeg, a bydd deg o feirniaid yn cyfarfod yn y Steddfod eleni i drafod y rhestr fer, a dewis un enillydd. I fod yn gymwys, roedd rhaid i’r albyms dan sylw gynnwys cerddoriaeth Gymraeg yn bennaf, a bod wedi eu rhyddhau rhwng 1 Mawrth 2016 a diwedd Ebrill 2017.
Y Bardd Anfarwol gan The Gentle Good oedd enillydd y wobr gyntaf yn Steddfod Llanelli 2014, gydag Y Dydd Olaf gan Gwenno yn dod i’r brig y flwyddyn ganlynol ym Meifod. Llynedd, tro Sŵnami oedd hi gydag eu halbwm cyntaf, gan gwblhau’r ‘dwbl’ ar ôl iddyn nhw gipio gwobr ‘Record Hir Orau’ Gwobrau’r Selar yn gynharach yn y flwyddyn.
Prif drefnydd Maes B, Guto Brychan, ydy un o’r criw sy’n gyfrifol am drefnu’r wobr ac mae’n credu bod y wobr wedi sefydlu ei lle yn rhaglen y Steddfod bellach.
“Mae’r wobr hon yn rhan bwysig o’r Eisteddfod erbyn hyn ac yn rhoi lle pwysig i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes o bob math” meddai Guto.
“Mae bob amser yn ddiddorol gweld beth sy’n apelio at y rheithgor ac yna’r beirniaid, ac mae’r ffaith mai’r rheiny sy’n ymwneud â’r diwydiant cerddoriaeth sy’n dewis yn sicrhau hygrededd y wobr.”
“Dyma’r pedwerydd tro i’r wobr gael ei chynnal ac mae’n ddiddorol edrych yn ôl a gweld yr amrywiaeth dros y blynyddoedd, nid yn unig ymhlith yr enillwyr, ond hefyd ymysg y rheiny sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ers 2014. Mae’n arwydd clir o ba mor amrywiol a hyfyw yw’r sin yng Nghymru heddiw.”