Rhag ofn i chi golli’r newyddion ddiwedd wythnos diwethaf, mae’r rhestr fer wedi ei chyhoeddi ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig (Welsh Music Prize) eleni.
Gwobr flynyddol yw’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig sy’n cydnabod y gerddoriaeth orau sydd wedi cael ei gyfansoddi yng Nghymru, neu gan artistiaid o Gymru, ar draws y byd. Felly mae’n wobr uchel ei pharch, a trhwy gydol y dydd ddydd Iau diwethaf fe ddatgelwyd yr enwau sydd ar y rhestr eleni ar amryw gyfryngau.
Meilir Jones ddaeth i’r brig yn 2016 â’i albwm ‘2013’.
Yr enwebiad cyntaf gafodd ei ddatgelu ar rhestr fer eleni, oedd albwm Gruff Rhys â’i draciau sain i’r ffilm boblogaidd Set Fire To The Stars. Wedi hynny, fe gyhoeddwyd bod cyn enillydd arall wedi cyrraedd y rhestr, sef Georgia Ruth Williams a’i halbwm Fossil Scale.
Yna cyhoeddwyd albwm cyntaf Bendith, prosiect ar y cyd Carwyn Ellis (Colorama) a Plu, sef enillydd teitl ‘Albwm Cymraeg y Flwyddyn’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst – tybed fyddan nhw’n llwyddo i wneud y dwbl?
Y ddau record nesaf ar y rhestr oedd albwm Baby Queens sy’n rhannu enw’r grŵp, a Mammoth Weed Wizard Bastard a’u halbwm Y Proffwyd Dwyll.
Mae H. Hawkline, sydd newydd fod ar daith o gwmpas Prydain wedi ei gynnwys hefyd gyda’i albwm I Romanticize a ryddhawyd ym mis Mehefin.
Tri artist unigol oedd nesaf ar y rhestr sef Kelly Lee Owens efo’i halbwm hunan-deitlog; The Gentle Good gyda’i bedwerydd albwm, Ruins/Adfeilion; a Toby Hay gyda’r albwm The Gathering.
Y tri albwm olaf ar y rhestr oedd Cotton Wolf World efo’r albwm Life in Analogue; HMS Morris gydag eu halbwm cyntaf Interior Design; ac yn olaf Wild Imagination gan Sweet Baboo.
Bydd y cyhoeddiad ynglŷn ag enillydd y wobr eleni’n cael ei wneud ar 20 Hydref, fel rhan o ddigwyddiadau Gŵyl Sŵn, Caerdydd.