Cyhoeddi rhestrau byr Albwm a Band Newydd Gwobrau’r Selar

Heno (8 Chwefror), cyhoeddwyd rhestrau byr dau arall o gategoriau Gwobrau’r Selar 2016, sef ‘Albwm Gorau’ a ‘Band neu Artist Newydd Gorau’.

Roedd pleidlais y categori ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ yn un arbennig o gryf eleni, ond y tri sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ydy enillwyr Brwydr y Bandiau C2/Steddfod y Fenni, Chroma; y grŵp ifanc o Bwllheli, Ffracas; a’r gantores ifanc addawol o Lanrug, Magi Tudur.

Yr ail restr fer i’w datgelu heno oedd categori ‘Albwm Gorau’ sydd bob amser yn un o’r rhai mwyaf diddorol. Roedd 2016 yn flwyddyn gref o ran recordiau hir newydd, a’r dair sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ydy IV, sef pedwerydd albwm stiwdio Cowbois Rhos Botwnnog; trydydd albwm, ac un olaf Y Bandana, Fel Tôn Gron; a record hir ddiweddaraf Band Pres Llareggub, Kurn.

Dim ond dwy restr fer sy’n weddill i’w datgelu bellach, a bydd categoriau ‘Artist Unigol Gorau’ a ‘Gwaith Celf Gorau’ yn cael eu cyhoeddi nos Fercher nesaf ar raglen Radio Cymru Lisa Gwilym, ar dudalen Facebook Ochr 1, ac ar ffrydiau cyfryngau cymdeithasol Y Selar wrth gwrs.