Cyhoeddi rhestrau Byr Band a Digwyddiad Byw Gorau

Yr wythnos hon rydym yn cyhoeddi rhestrau byr dau gategori cystadleuol dros ben yng Ngwobrau’r Selar, sef categori y Band Gorau a’r Digwyddiad Byw Gorau.

Mae rhestr fer categori Band Gorau’n cynnwys enillwyr y wobr dros y ddwy flynedd ddiwethaf, sef Sŵnami (2015) a Candelas (2014) a’r grŵp sydd wedi hawlio’r wobr deirgwaith yn y gorffennol, Y Bandana (2010, 2011, 2012).

Yr ail restr fer i’w chyhoeddi yr wythnos hon oedd ‘Digwyddiad Byw Gorau’, ac roedd 2016 yn sicr yn flwyddyn o ddigwyddiadau cofiadwy dros ben.

Maes-B sydd wedi hawlio’r wobr yma drosy ddwy flynedd ddiwethaf, a byddan nhw’n gobeithio cipio’r hat-tric eleni am y digwyddiad yn Y Fenni fis Awst.

Ond mae’r gystadleuaeth yn un gref gyda’r gig anhygoel hwnnw yn y Pafiliwn ar nos Iau Eisteddfod Y Fenni ble perfformiodd Sŵnami, Yr Ods a Candelas ar lwyfan y brifwyl gyda Cherddorfa’r Welsh Pops yn eu herbyn. Hefyd ar y rhestr fer o dri mae gig olaf Y Bandana, a gynhaliwyd yn Neuadd y Farchnad Caernarfon ar 14 Hydref – gig a welodd gannoedd yn ciwio tu allan i siop Palas Print am 8 y bore i brynu’r tocynnau olaf, os gredwch chi y chwedl.

Rydym eisoes wedi cyhoeddi 6 rhestr fer dros yr wythnosau diwethaf sef:

Cân Orau – Gweld y Byd Mewn Lliw – Band Pres Llareggub; Cyn i’r Lle Ma Gau – Y Bandana; Canfed Rhan – Candelas

Hyrwyddwr Gorau – Clwb Ifor Bach, Maes B, 4 a 6

Offerynnwr Gorau – Merin Lleu; Osian Williams,; Gwilym Bowen Rhys

Cyflwynydd Gorau – Tudur Owen; Huw Stephens; Lisa Gwilym

Record Fer Orau – Tân – Calfari; Niwl – Ffracas; Propeller – Cpt Smith

Fideo Gorau – Sgrin – Yws Gwynedd; Bing Bong – Super Furry Animals; Suddo – Yr Eira

Bydd y bedair rhestr fer sy’n weddill i’w cyhoeddi’n cael eu rhyddhau ar y ddwy nos Fercher nesaf, yn fyw ar raglen Lisa Gwilym ar C2 ac ar ffrwd Facebook Ochr 1.