Cymdeithas yr Iaith yn falch o lwyddiant gigs Steddfod

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg roedd eu gigs ar Fferm Penrhos, Ynys Môn yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ddechrau mis Awst yn llwyddiannus dros ben.

Gwerthwyd holl docynnau dwy o’r nosweithiau ymlaen llaw, sef y gig Bryn Fôn y ar y nos Sadwrn cyntaf, ac yna’r noson gomedi ar y nos Sul oedd yn cynnwys Tudur Owen ymysg rhai o enwau comedi eraill gorau Cymru ar hyn o bryd.

Dywed Bethan Ruth o Gymdeithas yr Iaith eu bod nhw’n “falch iawn o sut ath hi ‘leni…pob nos fe gafo ni turn-out gwych.”

Yn ôl Bethan, un o’r uchafbwyntiau oedd y nos Sadwrn ola’, sef gig Geraint Jarman…

“Roedd pobl yn dawnsio ar ben y meinciau picnic, a’r llawr oddi tanom yn crynu. Roedd pawb wrth ei boddau – roedd yn deimlad anhygoel bod pawb mor hapus”.

Cysylltu â’r gymuned leol

Roedd llawer mwy wedi campio yn y maes gwersylla gerllaw’r gigs eleni, oedd yn help yn ôl Bethan – “roedd hynny wedi creu awyrgylch wych”.

Meddai’r Gymdeithas eu bod yn falch iawn o gysylltiadau “da iawn” rhwng y Gymdeithas a phobl leol Bodedern, “yn enwedig y clybiau ffermwyr ifanc” gan mai nhw oedd yn rhedeg y bar trwy gydol yr wythnos.

Gan bod rhaid trawsnewid beudy fferm i leoliad gigs eleni roedd tipyn mwy o waith trefnu i’r grŵp fu wrthi. “Fe wnaeth pob dim ddisgyn yn ei le yn y diwedd a da ni’n ddiolchgar iawn o’r holl gwmnïau lleol fu’n rhan o’r paratoadau, yn ogystal a’r aelodau lleol fu’n peintio, addurno’r lle a gosod pyst a ffensys”.

Hwylio am y Bae

Mae’r Gymdeithas bellach wedi troi eu golygon at drefniadau Eisteddfod 2018 yng Nghaerdydd.

A gydag addewid o Eisteddfod go wahanol yn y Bae, rhan o syniadau’r Gymdeithas ydy ffeindio lleoliadau amgen ar gyfer cynnal eu nosweithiau.

Mae’r Gymdeithas eisoes wedi bod yn trafod “cyd-weithio gyda mudiadau lleol gan gynnwys mudiad yn erbyn di-gartrefedd yng Nghaerdydd, a Stonewall Cymru ynglŷn â noson LGBT hefyd o bosib” meddai Bethan.