Cynnyrch ar y ffordd gan Pyroclastig

Mae’r grŵp ifanc o Lŷn, Pyroclastig, wedi dweud wrth Y Selar eu bod nhw’n gobeithio bydd mwy o gynnyrch ar y ffordd ganddyn nhw cyn diwedd y flwyddyn.

Bu’r aelodau’n sgwrs â’r Selar wrth iddyn nhw gefnogi Yws Gwynedd yn y gig yn Neuadd Buddug, Y Bala ar 1 Medi gan ddatgelu eu cynlluniau ar gyfer y misoedd nesaf.

Daeth y grŵp i amlygrwydd wrth gystadlu yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau llynedd, gan gyrraedd y rownd derfynol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni.

Ryddhaodd y grŵp eu EP cyntaf, sy’n rhannu enw’r band, ar label Rasal yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn Ynys Môn eleni – newyddion sydd efallai wedi diflannu o dan y radar rhyw ychydig yng nghanol holl firi yr Eisteddfod. Ond y newyddion da ydy y gallwn ni ddisgwyl mwy o gynnyrch yn fuan gan y chwechawd o’r gogledd.

Soniodd Kieran (allweddellau synth) eu bod ar fin recordio ac ysgrifennu tipyn o ganeuon ar hyn o bryd “fel dilyniant i’r EP dwi’n sicr yn meddwl fod ‘na stwff da ni eisiau ei ryddhau yn weddol fuan…da ni jyst yn datblygu sŵn a gweld be sy’n swnio ora i ni fel chwechawd, felly ia, sgwennu mwy o stwff a gweld be sydd ora i ni.”

Gan sôn am yr EP dywedant eu bod wedi derbyn ymateb gweddol er “nad oes llawer o sylw wedi bod iddo yn y cyfryngau, dim eto beth bynnag. Cafodd y sengl ‘Cwyr’ ei chwarae ar raglen Lisa Gwilym tua mis yn ôl, ac mae’r EP ar gael ar ffurf copi caled yn ogystal ag ar Spotify ac iTunes” meddai Gruff o’r grŵp.

Esbonia bod y profiad o recordio a chynllunio dyddiadau rhyddhau’r EP â label Rasal yn brofiad digon addysgiadol yn ei hun.

Dywed Hawys, sy’n chwarae gitâr fas ac yn canu i’r grŵp, bod y broses o edrych ar ba ganeuon sy’n cael y mwyaf o wrandawiadau yn “ddiddorol” er mwyn cael syniad o ba drywydd y dylen nhw ddilyn o ran eu sŵn.

Wrth drafod y gig yn Neuadd Buddug, meddai Hawys mai hwnnw oedd “un o’r gigs gora dwi ‘di chwarae – oedd o’n braf bod cymaint yn dod yna mor fuan i’n gweld ni’n chwarae.”

Dywed Hawys eu bod wedi hen arfer chwarae mewn lleoliadau bach fel clybiau rygbi, a bod y Neuadd yn un unigryw.

Roedd Pyroclastig hefyd yn perfformio yng Ngŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion yn gynharach yn y mis, ac maent yn chwarae yng Nghlwb Ifor Bach yn fuan hefyd yn ôl y band.

Geiriau: Elin Siriol