Deunydd ychwanegol Tŷ Drwg
Efallai i rai ohonoch ddarllen ychydig o hanes Frank Naughton a’i stiwdio, Tŷ Drwg, yn y rhifyn diweddaraf o’r Selar. Cymaint yw casgliad enfawr Frank o feicroffonau, synths a reverbs digidol, doedd dim lle i fanylu llawer yn y cylchgrawn. I chwi’r puryddion felly dyma Frank yn i egluro mwy am ei offer.
Meddalwedd
“Mae fy mhrif gyfrifiadur yn rhedeg Cubase, rwyf wedi ei ddefnyddio ers y Cubeat 1.0 ar yr Atari ac mae o wedi llosgi i mewn i fy ymennydd gymaint nes fy mod i’n methu â newid i unrhyw DAW arall. Mae gen 18 sianel o fewnbwn/allbwn analog sydd yn hen ddigon ar gyfer y mwyafrif o stwff gan fod y gofod recordio reit fach, dwi’n rhedeg allan o gerddorion cyn rhedeg allan o sianeli fel arfer.”
Preamps
Focusrite ISA220 a Vortexion Mixer yw fy hoff preamps. Dwi’n dod yn fwy hyderus yn tracio gyda compression, distortion ac effeithiau ar y ffordd i mewn. Ar hyn o bryd mae yna gadwyn o MXR 136 (compressor/limiter gwyllt a drygionus), MXR 186 (delay gyda thrawsgyweiriad) a sbring Roland RV-100 i chwarae â nhw. Byddaf yn aml yn recordio trac glân ar yr un pryd ar sianel arall hefyd fel bod gen i rywbeth wrth gefn os yw’r llall yn swnio’n ofnadwy.”
Meics
“Wnai ddim ond rhestru rhai o’r ffefrynnau. Mae cyddwysyddion Neumann U87 a Rode NTV yn cael defnydd helaeth. Mae’r U87 wastad yn swnio’n OK o leiaf. Mae’r NTV yn barodi od o ryw hen gyddwysydd vintage.
“Dwi’n ffan o feics dynamig ar gyfer mwy neu lai popeth ar wahân i brif leisiau. Mae’r Sennheiser MD421 yn ffefryn a’r Beyerdynamic M201 fel ryw SM57 sydd wedi tyfu fyny a stopio bod yn gymaint o idiot. Dwi’n defnyddio Coles 4038 weithiau ond mae o’n boen gan ei fod o mor drwm. Mae’n anodd ei osod o’n iawn ac mae o’n treulio llawer o’i amser ar y llawr o dan stand meic wedi dymchwel. Ond mae o’n feic gwych i wneud amps gitâr bach swnio’n fawr ac ar gyfer gitârs acwstig sydd â sŵn cynnes.
“Mae’r Reslo Ribbon yn cael llawer o ddefnydd, er ei fod o ddirfawr angen rhuban newydd. Ac omni Grampian hefyd sydd yn gwneud i bopeth swnio fel yr 1920au. Mae’r EV-635A yn esgus bod yn feic cachlyd, ond yn achlysurol mae o’n swnio’n enfawr a bendigedig ar gitârs acwstig tannau dur. Dwi wastad yn rhoi o leiaf un meic dynamig mewn lle rhyfedd yn yr ystafell wrth dracio dryms hefyd. Ac weithiau, mae o’n swnio’n dda.”
Offerynnau
Rhestr faith o synths, samplers ac allweddellau:
· Roland Juno 60
· Sequential Prophet 600
· Korg DW-8000
· Siel Cruise
· Bontempi Pops 20
· Yamaha D85
· Yamaha V50
· Alesis Fusion
· Farfisa Beresford
· Farfisa PianoOrgan
· Fender Rhodes
· Two acoustic pianos, one of which is even vaguely in tune!
· Alesis Fusion
· Roland SH1000
· Roland SH2000
· Akai X7000
· Akai S5000
· Sequential Prophet 2002+
· Akai S5000
· Casio FZ-10M
· Casio VZ-10M
· Yamaha CS-01
· Roland V-Synth GT
· Ekosynth P-15
“A llwyth o allweddellau tegan, drum boxes a thomen o bethau eraill na alla’i ddod o hyd iddynt gan eu bod wedi eu claddu o dan yr allweddellau eraill!”
Casgliad Reverbs Digidol
“Dwi’n casglu hen geriach outboard rack, yn enwedig hen reverbs digidol ofnadwy. Yn bennaf achos ei fod o’n rhâd gan nad oes neb eisiau’r stwff yma bellach. Er difyrrwch fy hun mae hyn yn fwy na dim gan mai dim ond y sbrings dwi’n eu defnyddio ar y cyfan wrth dracio tiwns pobl. Ar hyn o bryd mae’r casgliad yn cynnwys:
· Lexicon PCM80
· Lexicon Reflex
· Lexicon LXP-1
· Sony DPS-R7
· Akai AR-900
· Dynacord DRP-16
· Behringer REV-2496
· MXR 01a
· Alesis XTC
· Great British Spring
· Roland RV-100 Spring
· McKenzie Spring
· Roland SRV-2000
· Roland DEP-5
· Roland SRV330
· Roland SRV3030
· Yamaha REV-5
· Yamaha R1000
· Yamaha SPX-90
· Ibanez SDR-1000+
· Zoom 9010
“O’r rhain, y Dynacord a’r MXR yw dau o’r rhai gwaethaf, ond maen nhw’n swnio’n wych. Rwyf yn argymell y rheiny i unrhyw un sy’n cael plugin reverbs yn ddiffrwyth. Ond mae gan bob un ei gymeriad ei hun, sydd yn ddiddorol. Mae defnyddio hen reverb 30 mlwydd oed ychydig fel darganfod ryw hen neuadd lychlyd sydd wedi ei chloi ac heb ei defnyddio ers tro.”