Dewis deg cân Orau Geraint Jarman

Fel y gwyddoch erbyn hyn, bydd Geraint Jarman yn derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar dros y penwythnos, ac rydan ni eisiau eich help chi i ddewis ei 10 cân orau.

Y gwir plaen ydy ein bod Y Selar wedi bwriadu llunio rhestr rhestr 10 Uchaf Caneuon Jarman ein hunain….nes i ni ddechrau arni a sylweddoli pam mor anodd ydy’r dasg!

Dros y 4 degawd diwethaf ers rhyddhau ei albwm cyntaf, Gobaith Mawr y Ganrif, ym 1976 mae Geraint Jarman wedi rhyddhau rhai o ganeuon gorau a mwyaf eiconig yr iaith Gymraeg. Mae dewis dim ond deg ohonyn nhw, a rhoi rheiny mewn trefn yn her amhosib, felly yn ysbryd democrataidd Gwobrau’r Selar dyma benderfynu mai’r ffordd o ddatrys y broblem oedd i gynnal pôl piniwn.

Rydan ni wedi llwyddo i lunio rhestr hir o’n hoff ganeuon ni isod a gallwch ddewis un o’r rhain, neu os ydan ni wedi anghofio cynnwys eich ffefryn chi yna mae modd i chi ychwanegu’r gân honno ar waelod y bleidlais.

Cofiwch am gig Geraint Jarman yn Neuadd Pantycelyn nos Wener yma, sy’n agor gweithgareddau Gwobrau’r Selar dros y penwythnos. Mae rhai tocynnau ar ôl ar hyn o bryd ond yn brin – mae modd i chi brynu rhain yn Siop Inc, Aberystwyth neu o swyddfa UMCA.

Mae’r bleidlais isod ar agor nes 12:00 ddydd Iau yma, a byddwn ni’n cyhoeddi’r canlyniadau nos Iau. Dewiswch yn ofalus, a rhannwch y ddolen i’r bleidlais plîs

*PLEIDLAIS WEDI CAU AR 16/02/17*