Mae dros 100,000 o bobl wedi gwylio fideo ‘Rhedeg i Paris’ gan Candelas a gyhoeddwyd ar YouTube flwyddyn yn ôl.
Recordiwyd fersiwn o’r gân, sy’n wreiddiol gan Yr Anrhefn, fel rhan o ymgyrch Radio Cymru i gefnogi tîm Cymru yn Ewro 2016. Roedd ymgyrch y tîm pêl-droed yn hynod llwyddiannus wrth gwrs, a theg dweud bod y fersiwn newydd o’r gân bron iawn yr un mor llwyddiannus!
Ac mae’n ymddangos bod poblogrwydd y gân wedi parhau, gan bod y fideo bellach wedi ei wylio gan dros 100,000 o bobl.
Dyma’r ail fideo cerddorol Cymraeg i groesi’r ffigwr hwnnw mewn llai na blwyddyn – bydd rhai darllenwyr yn cofio bod ‘Sebona Fi’ gan Yws Gwynedd wedi gwneud hynny nôl ym mis Hydref llynedd.
Roedd Y Selar yn ddigon ffodus i ddal fyny â chanwr Candelas, Osian Williams, ar faes Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont i’w holi am ei ymateb…