EP cynta’ Cadno allan ddiwedd y mis

Mae’r grŵp ifanc ardderchog o Gaerdydd, Cadno, wedi cyhoeddi manylion rhyddhau eu EP cyntaf.

Bydd record gyntaf y grŵp, sy’n cynnwys pump o ganeuon allan ar 30 Mehefin gyda gig lansio arbennig yng Nghlwb Ifor Bach y noson honno.

Cadno ydy Becca (gitâr a llais), Will (gitâr), Cadi (allweddellau), Mali (gitâr fas) a Trystan (drymiau) ac fe ddaethon nhw i amlygrwydd tu hwnt i’r brifddinas wrth gystadlu yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2, Maes B a Mentrau Iaith Cymru yn 2015.

Maen nhw eisoes wedi rhyddhau dwy sengl ar label JigCal llynedd, sef ‘Ludagretz’ (Chwefror 2016) a ‘Camau Gwag’ a ryddhawyd fel sengl ddwbl ar y cyd â grŵp ifanc arall o Gaerdydd, Hyll, ym mis Hydref.

Unwaith eto, mae Cadno’n cydweithio gyda label JigCal i ryddhau’r EP newydd, a rheolwr y label, Mei Gwynedd, sy’ wedi cynhyrchu’r record y tro hwn hefyd.

Yn ôl yr aelodau mae peth newid wedi bod yn sŵn Cadno ers i’r drymiwr newydd, Trystan, ymuno ac maent yn disgrifio’r sŵn fel ‘ffync tywyll’.

“Ma di newid bach fi’n credu, fi’n credu bod ni bach yn fwy trwm” meddai Becca wrth sgwrsio gyda’r Selar yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd.

“Fyswn i’n gweud bod y chydig bach yn fwy tywyll na ni wedi gwneud o’r blaen” ychwanegodd y gitarydd, Will.

“Dwi’m yn credu bod gyda ni air amdano fe [sŵn y grŵp] ond dark funk ydy be ma Mei [Gwynedd] yn galw fe” meddai Trystan.

Bydd yr EP newydd yn cael ei ryddhau’n swyddogol ar 30 Mehefin pan fydd Cadno’n cynnal gig lansio arbennig yng Nghlwb Ifor Bach. Gig a drefnir ar y cyd rhwng Ieuenctid Clwb Ifor Bach a Maes B ydy hwn, ac mae’n ran o arlwy ‘Wythnos Tafwyl’ sy’n arwain at brif benwythnos yr ŵyl honno ar Gaeau Glantaf ar 1-2 Gorffennaf.

Bydd Cadno hefyd yn perfformio ar lwyfan Gŵyl Tafwyl ar ddydd Sul 2 Gorffennaf, a bydd cyfle i’w gweld yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn ddechrau Awst hefyd.

Gigs Cadno

30 Mehefin: Gig lansio EP Cadno – Clwb Ifor Bach, Caerdydd

2 Gorffennaf: Llwyfan Gŵyl Tafwyl – Caeau Llandaf, Caerdydd

10 Awst: Llwyfan perfformio’r maes – Eisteddfod Genedlaethol Môn (16:00)

12 Awst: Caffi Maes B – Eisteddfod Genedlaethol Môn (14:30)