Bydd y grŵp o Bwllheli, Ffracas, yn rhyddhau eu EP newydd yn swyddogol ar label I Ka Ching ar 16 Awst.
Enw’r EP [sy’n bach o lond ceg deud gwir – gol.] ydy ‘Mae’r nos yn glos ond does dim ffos rhwngtha ni’, ac mae’n bosib bod rhai ohonoch chi wedi llwyddo i brynu copi gan aelodau Ffracas yn y Steddfod wythnos diwethaf.
Dyma fydd ail EP y grŵp ifanc yn dilyn ‘Niwl’ a ryddhawyd yn annibynnol llynedd ac enillodd wobr ‘Record Fer Orau’ Gwobrau’r Selar yn gynharach eleni.
Ffracas hefyd enillodd deitl ‘Band Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar ac mae’n nhw’n cael eu gweld gan nifer fel un o fandiau ifanc mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd.
Mynd i ‘stiwdio go iawn’
Mae pedwar aelod Ffracas yn adnabod ei gilydd ers amser maith, ac wedi bod yn jamio ers iddyn nhw fod yn yr ysgol gynradd. Yn ôl label y grŵp, Recordiau I Ka Ching, mae ‘na “ddealltwriaeth gadarn rhwng y pedwar aelod”, sef Sion Adams (gitâr), Jac Williams (gitâr fas a llais), Owain Lloyd (drymiau) a Ceiri Humphreys (gitâr).
Penderfynodd Ffracas ymuno â stabl I Ka Ching ar ôl rhyddhau eu EP cyntaf gan ddatgan ei bod yn bryd mynd i ‘stiwdio go iawn’, ac fe recordiwyd yr EP newydd yn un o stiwdio’s enwocaf Cymru, sef stiwdio Sain.
Aled Wyn Hughes, basydd Cowbois Rhos Botwnnog ac Alys Williams, sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r bedair cân sydd ar yr EP.
Mae’r EP yn agor gyda’r gân ‘Carots’, sydd yn ôl I Ka Ching yn cyrraedd pegwn trymaf y band, gan ddwyn ysbrydoliaeth gan fandiau seicadelig fel Pink Floyd cynnar a Tame Impala.
Er yn ceisio aros yn driw i’w sŵn byw, mae ‘Niwl’ yn dangos Ffracas yn “arbrofi gyda gwahanol synau sy’n ategu’r geiriau llawn amheuaeth dirfodaeth arddegwyr aeddfed” medd y label.
‘Pla’ sy’n dilyn gyda “gwead trwchus, sy’n dangos yn glir sut mae sŵn y band wedi aeddfedu o’i gymharu â’r stwff cynharach.”
Mae’r EP yn cloi gydag ychydig o bop-indî ‘Petalau’r Haul’, sydd wedi ei hysbrydoli gan fandiau fel Peace a Beach Fossils. Dyma drac mwyaf ‘hamddenol’ yr EP.
Rhaglen Lisa
Bydd Ffracas yn ymuno â Lisa Gwilym ar ei rhaglen Radio Cymru ar ddiwrnod rhyddhau’r EP, nos Fercher yma, gan chwarae’r casgliad yn ei gyfanrwydd.
Bydd yr EP ar gael o siopau cerddoriaeth da, y siopau cerddoriaeth digidol arferol, a gan Ffracas yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.