EP newydd Bendith

Newyddion da o lawenydd sydd wedi cyrraedd clustiau Y Selar yr wythnos hon, sef bod Bendith i ryddhau EP newydd i ddilyn yr albwm ardderchog ganddyn nhw yn Hydref 2016.

Os ydach chi wedi bod yn byw dan garreg dros y misoedd diwethaf, Bendith ydy prosiect Carwyn Colorama a’r grŵp Plu.

Bydd y record 5 cân newydd yn cael ei rhyddhau ddydd Gwener yma, 10 Chwefror, i gyd-fynd â Dydd Miwsig Cymru.

Ac os nad ydy hynny’n ddigon cyffrous i chi, mae’r casgliad yn cael ei gyhoeddi ar fformat feinyl 12” gan y label Aficianado Recordings. Mmmm, feinyl…..

Yn ôl yr wybodaeth sydd wedi’n cyrraedd ni, mae’r EP yn dilyn naws pop gwerinol albwm Bendith, ac yn cynnwys tri trac newydd a fersiynau amgen i draciau’r albwm.

Mae dwy o’r traciau newydd yn addasiadau Cymraeg o heb glasuron – ‘Cân am Gariad yn fersiwn o ‘Love Song’ gan Lesley Duncan, a ‘Hwiangerdd Takeda’ yn addasiad o alaw draddodiadol i Siapan sydd wedi’i hysbrydoli gan fersiwn a ryddhawyd ym 1969 gan y band Siapaneaidd Akai Tori.

Mae modd archebu’r fersiwn feinyl o’r EP ar wefan Piccadilly Records (rydan ni wedi archebu dau – gol) a bydd modd lawr lwytho’r traciau ar safle Bandcamp Bendith.

I roi blas i chi o’r hyn gallwch chi ddisgwyl, dyma fersiwn Akai Tori o Takedano No Komoriuta (Hwiangerdd Takeda):