EP newydd Ffracas allan rŵan

Ar ôl wythnos brysur yn y ‘Sdeddfod – mae EP Ffracas, Mae’r Nos yn Glos ond Does Dim Ffos Rhwngtha Ni, o’r diwedd wedi ei ryddhau yn swyddogol ar label I Ka Ching ddydd Mercher.

Er mai band Cymharol newydd ydy mae’r pedwar aelod – Sion Adams (gitâr), Jac Williams (gitâr fas a llais), Owain Lloyd (drymiau) a Ceiri Humphreys (gitâr) – wedi bod yn jamio efo’i gilydd ers bod yn yr ysgol gynradd.

Dyma ail EP y band o Ben Llŷn, gyda’r cyntaf, Dacw Hi, wedi’i rhyddhau dros flwyddyn yn ôl yn annibynnol. Caiff, Dacw Hi, ei disgrifio “a theimlad Big Leaves-aidd” gan label I KA CHING, ac mae wedi’i chwarae droeon ar Radio Cymru `leni, yn enwedig ar ôl iddi gipio gwobr ‘Record Fer Orau’ Gwobrau’r Selar ym mis Chwefror.

Recordio mewn “stiwdio go iawn”

Yn ôl I Ka Ching fe ymunodd Ffracas â’u tylwyth a datgan ei bod yn bryd mynd i “stiwdio go iawn”. Aeth y pedwar i stiwdio Sain at Aled Wyn Hughes i recordio’ EP pedair cân y maen nhw wedi eu cyfansoddi tros y flwyddyn diwethaf.

Mewn sgwrs fer â’r Selar dywedon nhw eu bod wedi “practisio droeon cyn mynd i’r stiwdio tro ‘ma, yn wahanol i’r EP dwethaa lle nathon ni recordio stwff tra’n dal i sgwennu.”

Lansio ar raglen Elan Evans

Roedd Ffracas ar raglen Elan Evans, oedd yn cadw sedd Lisa Gwilym yn gynnes, nos Fercher gan ddatgelu mwy o wybodaeth am yr EP. Un peth a ddatgelwyd oedd bod y teitl hir-wyntog wedi ei greu ar noson feddwol fel rhan o jôc rhwng yr hogia – diolch bois, mae hynny’n egluro lot!

Cyhoeddwyd hefyd bod ‘Niwl’ oddi ar yr EP wedi cychwyn fel jam, ac yna yn nhŷ Ceiri fe ychwanegwyd dryms a’i ail-g’neud ti “mae’n adlewyrchu’r sŵn newydd” medden nhw ar yr awyr.

Agorir yr EP gyda ‘Carots’ – o ran sŵn, dyma begwn trymaf y band, gan ddwyn ysbrydoliaeth gan fandiau seicadelig fel Pink Floyd cynnar a Tame Impala. Yna mae ‘Niwl’ a ‘Pla’ yn dilyn, ac mae modd clywed ‘Pla’ ar Souncloud os am ragflas o’r EP – cân sy’n cynnig “gwead trwchus, sy’n dangos yn glir sut y mae sŵn y band wedi aeddfedu o’i gymharu a’r stwff cynharach” yn ôl I Ka Ching.

Mae’r EP yn cloi gyda ‘chydig o bop-indi ‘Petalau’r Haul’, sydd wedi ei ysbrydoli gan fandiau tebyg i Peace a Beach Fossils. Dyma drac mwyaf “hamddenol” yr EP, ac mae’r band yn llwyddo i chwarae efo’i phatrwm gan wneud “cân ddylsa bod yn dri munud i un pum munud.”

Bu’r EP ar werth gan yr aelodau trwy gydol wythnos yr Eisteddfod, ond dim ond ers dydd Mercher mae hi’n swyddogol ar werth ar y wê ac o siopau cerddoriaeth. Bu’r band yn rhoi llwyfan i’w cerddoriaeth newydd trwy gydol y ‘Sdeddfod mewn amryw o gigs gan gynnwys Maes B, ac mae sôn bod y band am ychwanegu tipyn o gigs i’w calendr o fis Hydref ymlaen hefyd.

Mae dal yn bosib gwrando’n ôl ar sgwrs Elan Evans gyda Ffracas ar hyn o bryd.

Dyma ‘Pla’: