Mae Palenco wedi datgelu eu bod nhw wrthi’n recordio EP newydd ar hyn o bryd.
Rhyddhawyd sengl ddwbl gyntaf y grŵp oedd yn cynnwys y traciau ‘Saethu Cnau’ a ‘Bath’ yn Awst 2014, ac yna rhyddhawyd albwm llawn ganddyn nhw oedd yn rhannu enw’r grŵp ar label I Ka Ching yng Nghorffennaf 2015.
Bu i’r grŵp drydar clip fideo amwys yn ddiweddar yn awgrymu eu bod nhw wrthi’n gweithio ar rywbeth newydd yn y stiwdio. Bellach, maen nhw wedi cadarnhau wrth Y Selar eu bod nhw wedi dechrau recordio EP newydd, gyda’r bwriad o ryddhau yn yr hydref.
NEWYDDION. Rydym ni yn y stiwdio yn recordio E.P newydd. GWELER ➡️ pic.twitter.com/XqNbQoepL5
— Palenco (@PALENCOband) June 15, 2017
Palenco ydy’r prosiect a ddechreuwyd ar y cyd rhwng Llŷr Pari a Dafydd Owain – y ddau yn gyn aelodau o Jen Jeniro, ar ôl i’r grŵp hwnnw ddod i ben yn 2012. Mae Llŷr hefyd yn aelod o Cowbois Rhos Botwnnog, a bellach wedi sefydlu ei hun fel cynhyrchydd gyda’i stiwdio, Glanllyn, ym Melin y Coed ger Llanrwst.
Mae Dafydd yn gyn-aelod o Eitha Tal Ffranco, ac ynghyd ag aelod arall y grŵp hwnnw, Gruff ab Arwel, yn gyfrifol am label Recordiau Klep Dim Trep. Mae Gruff yn aelod o Palenco hefyd pan mae’r grŵp yn perfformio’n fyw, ynghyd ag Osian Williams (Candelas) a George Amor (Omaloma).
Y cynnyrch diwethaf i’r grŵp ryddhau ydy’r trac ‘Gofyn Cwestiwn’ oedd ar gasgliad aml-gyfrannog ‘5’ a ryddhawyd gan label I Ka Ching i ddathlu eu pen-blwydd yn bump oed ym mis Gorffennaf llynedd.