EP Panda Fight

Mae’r grŵp pop electroneg, Panda Fight, wedi cyhoeddi manylion rhyddhau eu EP cyntaf, Neo Via.

Panda Fight ydy’r ddeuawd o Dde Cymru sy’n cynnwys Alun Reynolds (synth/rhaglennu/llais cefndir) a Sara Davies (llais). Bydd nifer ohonoch yn gyfarwydd ag Alun diolch i’w brosiect diwethaf, JJ Sneed, wnaeth dipyn o enw i’w hun gyda’r air sax yn gig Hanner Cant bum mlynedd yn ôl.

Ymysg eu dylanwadau, mae’r ddeuawd yn rhestru Gunship, Depeche Mode a Kraftwerk ac mae eu sŵn synth pop electroneg yn un digon unigryw yn y Gymraeg.

Bydd EP cyntaf y grŵp yn cael ei ryddhau ar 9 Awst 2017, a hynny ar y label annibynnol Recordiau Brathu.

Bydd pump trac ar yr EP, gan gynnwys y sengl ‘Dawel yw y Dydd’ (gwrandewch isod) a ryddhawyd ym mis Ebrill eleni. Traciau eraill y casgliad byr ydy ‘Neo Via’, ‘Tristitia’, ‘Neo corde’ ac ‘Eletrica’. Fe wnaeth y grŵp ryddhau’r EP i bobl glywed ar Soundcloud am 24 awr ganol wythnos diwethaf.