Rydym eisoes wedi rhoi sylw i sengl newydd y cerddor o Abertawe, Geraint Rhys, sydd allan ddydd Gwener yma.
‘Ta ta Tata’ ydy sengl Gymraeg y cerddor cyn cyfansoddi yn y Gymraeg a’r Saesneg, a sy’n cynnwys negeseuon gwleidyddol clir yn ei waith.
Rydan ni hefyd wedi trafod hoffter Geraint o gynhyrchu fideos i gyd-fynd â’r ganeuon – mae ganddo gasgliad cynyddol o’r fideos hynny ar ei sianel YouTube erbyn hyn, y cyfan yn safonol dros ben.
Wel, mae wedi bod yn brysur yn creu fideo ar gyfer ‘Ta ta Tata’ dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, ac rydym yn falch iawn i gyhoeddi y bydd cyfle cyntaf ecsgliwsif i chi weld y fideo gorffenedig ar wefan Y Selar nos fory, sef nos Iau 27 Ebrill.
Cyfarwyddwr y fideo ydy Alex Priestley, ac mae’n dilyn Geraint yn crwydro ardal diwydiannol Port Talbot, sef testun y sengl.
Bydd y fideo’n cael ei ryddhau’n ehangach i gyd-fynd â dyddiad rhyddhau’r sengl nos Wener.