Fe ryddhawyd fideo ardderchog newydd i gân Cadno, ‘Bang Bang’, gan Ochr 1 wythnos diwetha’, ac mae hwn ar gael i’w wylio ar lwyfannau HANSH ac ar sianel You Tube Ochr 1.
Mae’r “fideo ffrwydrol” gan y band o’r brifddinas, wedi cael ei gyfarwyddo gan yr actores Hanna Jarman o Gaerdydd.
Cafodd Bang Bang ei rhyddhau fel y trac ar EP cyntaf Cadno, sy’n rhannu enw’r grŵp, ac sydd allan yn swyddogol ers 30 Mehefin eleni.
Lansiwyd yr EP mewn gig yng Nghlwb Ifor Bach fel rhan o weithgareddau Gŵyl Tafwyl, a bu’r aelodau’n trafod y record mewn cyfweliad gydag Y Selar yn Steddfod yr Urdd, a nhw oedd ar glawr rhifyn Y Selar mis Awst.
Bu ‘Band Bang’ hefyd yn sengl yr wythnos ar BBC Radio Cymru fis Gorffennaf, ac mae’n deg dweud ei bod yn un o ganeuon y flwyddyn gan gyrraedd rhestr hir categori ‘Cân Orau’ Gwobrau’r Selar.
Dyma’r fideo isod…ond dylid rhoi *rhybudd* i’r gwangalon gan bod ‘na ambell ddiferyn o waed tua’r diwedd!