Fe ryddhaodd FFUG fideo newydd i’w cân ‘Are U With Us’ wythnos diwethaf.
Dyma gân oddi ar yr albwm ‘Ffug’ a ryddhawyd ar label Strangetown nôl yn 2016.
Mae tair blynedd wedi hedfan heibio ers i EP y grŵp Cofiwch Dryweryn gael ei ryddhau ar label Rasp ac mae’n siŵr bod cynulleidfa Maes B yn edrych ymlaen at groesawu’r band cyffrous yn ôl o gofio’u perfformiadau egnïol yn y gorffennol.
Mi fyddan nhw’n chwarae ar noson agoriadol Maes B ar y nos Fercher eleni, ynghyd â Candelas, Cpt. Smith a Chroma.
Fe saethwyd a chyfarwyddwyd y fideo gan Jacob Hodges, ac fe’i golygwyd gan Philip Jenkins.