Galw am drefnwyr gigs yn Nyffryn Peris

Mae criw o Ddyffryn Peris wedi bod yn apelio am unigolion i fod yn rhan o’u cynlluniau i drefnu mwy o gigs Cymraeg yn yr ardal. Maent hefyd yn chwilio am fandiau i chwarae yn Nyffryn Peris.

Dywedant eu bod yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd am fod yn ran o’r cynlluniau, boed yn bwcio bandiau i chwarae, chwilio am grantiau, dylunio posteri, hyrwyddo, rheoli sain neu stiwardio mewn gigs. Cyfle perffaith i bobl ifanc sy’n chwilio am brofiad yn y maes.

Maent yn annog unrhyw un sydd a diddordeb i gysylltu â Marged dros e-bost – Marged_3@hotmail.com.