Galw cerddorion ifanc!
Bydd ‘na cyfle gwych i chi feithrin eich doniau mewn cwrs arbennig sy’n cael ei gynnal yng Nghwersyll yr Urdd Glan-llyn ym mis Awst eleni.
Mae ‘Marathon Roc 2017’ yn gwrs preswyl ar gyfer bandiau a cherddorion unigol sydd rhwng 13 a 25 oed.
Mae’r cwrs yn cael ei drefnu gan ‘Sbarc’, sef prosiect sy’n cynnig cyfleoedd a phrofiadau celfyddydol i blant a phobl ifanc yn y Galeri yng Nghaernarfon.
Rhwng 21 a 24 Awst bydd cyfle i bawb sydd ar y cwrs gyfansoddi, ymarfer a chwarae gyda help tiwtoriaid sy’n rai o gerddorion mwyaf amryddawn Cymru – Osian Williams (Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog), Branwen Williams (Cowbois Rhos Botwnnog, Siddi) a Gai Toms.
Ac, ar ddiwedd y cwrs bydd cyfle i’r bandiau a cherddorion chwarae gig yn theatr Galeri am 18:00 ar noson 24 Awst.
Pris y cwrs ydy £150, sy’n cynnwys llety, bwyd a gweithgareddau awyr agored. Am o fanylion pellach dylid ebostio sbarc@galericaernarfon.com
Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar wefan Prosiect Sbarc Galeri.