Gig Bala Yws Gwynedd wedi gwerthu allan

Mae tocynnau gig Yws Gwynedd yn Neuadd Buddug, y Bala, nos Wemner nesaf wedi gwerthu i gyd dros wythnos ymlaen llaw.

Bydd Yr Eira a Pyroclastic yn cefnogi Yws ar lein-yp cryf sydd wedi’i drefnu gan Branwen Williams ac Aelwyd Penllyn.

Dyma un o ddegau o’r gigs mae Aelwyd Penllyn wedi’u trefnu dros y saith mlynedd diwethaf, ac mewn sgwrs â’r Selar mae Branwen wedi bod yn trafod eu llwyddiant…

“Ryden ni ‘di bod yn trefnu gigs fel Aelwyd Penllyn ers saith mlynedd, ond dyma’r tro cyntaf i ni werthu gig allan…mae’n deimlad braf!”

Ydy hyn yn arwydd bod mwy o bobl yn cymryd diddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg yn yr ardal felly?

“Dwi’n gobeithio bod cynnal gigs yn ardal y Bala wedi tanio diddordeb pobl. Yn sicr – gigs fel hyn wnaeth sbarduno bandiau fel Y Cledrau i gychwyn. Mae’n hanfodol i bobl ifanc weld cerddoriaeth fyw yn lleol”.

Canmol y neuadd unigryw

Mae Neuadd Buddug wedi chware rhan flaenllaw fel rhan o drefniadau gigs Aelwyd Penllyn gan ei fod yn leoliad unigryw, ac yn cynnig tipyn o brofiad i’r artistiaid sydd yn chwarae yno, fel yr eglura Branwen,

“Ryden ni’n cael adborth gan fandiau yn dweud mai’r Neuadd honno yw’r venue ore maen nhw erioed wedi chwarae ynddi.”

Ond dim ond yn ddiweddar iawn mae dyfodol yr adeilad wedi’i ddiogelu gan bod cynlluniau i’w gau cyn hynny.

“Mae’r adeilad dan fygythiad, ond mae’n dangos bod ‘na le i Neuadd Buddug yn y gymuned sy’n andros o bwysig – mae hi’n dlawd iawn yn Ne Gwynedd o ran lleoliadau mawr i gynnal gigs, mae digonedd o rai bach” meddai Branwen.

Yn ogystal â cherddoriaeth fyw bydd bar mae bar y gig yn cael ei redeg gan fusnes lleol, ‘Stori’ – busnes poblogaidd newydd yn Y Bala sy’n gwerthu cwrw yng Nghymru a thros y byd.

Dywed Aelwyd Penllyn eu bod yn awyddus i ddiolch i fusnesau lleol am fod mor barod i gefnogi, gan gynnwys Awen Meirion wrth iddynt werthu’r tocynnau yn y siop sydd yn “anhygoel hefo’i dewis cerddoriaeth”.