Mae casgliad o artistiaid a cherddorion benywaidd wedi cyhoeddi eu bod am ddod at ei gilydd i gynnal gig go wahanol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ym Môn fis Awst.
Penderfynodd yr artistiaid i fynd ati i drefnu gig ‘Pŵer Genod’ gan eu bod i gyd yn teimlo’n gryf nad oes digon o artistiaid a bandiau benywaidd yn perfformio yn yr Eisteddfod y flwyddyn hon.
Bydd lein-yp y gig yn cynnwys Panda Fight, Eadyth, Beth Celyn a Glain Rhys ynghyd â’r artistiaid newydd Mabli Tudur a Ffion Angell.
Cyfle teg
Un o drefnwyr y gig ydy Alun Reynolds sydd, ynghyd â Sara Davies, yn aelod craidd y grŵp pop electroneg Panda Fight.
Yn ogystal â theimlo nad oes llwyfan teg i ferched yn yr Eisteddfod, mae’n credu’n gryf bod angen talu artistiaid i gyd yn gyfartal.
“Ni’n teimlo fel bod neb wedi derbyn y cyfle teg eleni, dim ond dau fand gyda merch yn y band sy’n chwarae’n Maes B sef Chroma a HMS Morrris. Ble mae Ani Glass ac Alys Williams?” meddai Alun.
“Ry’ ni isie i‘r gig ‘ma hybu mwy o gigs â merched o gwmpas Cymru. Ry’ ni eisiau cynghori’r bandiau benywaidd ‘ma i ddod o dan yr umberella ‘Gigs Pŵer Genod’. Dyle pawb gael y cyfle a thâl teg – dyle marched gael yr un cyfle a thâl a dynion. Mae’n sefyllfa rwy’n teimlo’n passionate iawn amdano.”
Cwynion annheg
Wrth ymateb i’r honiad o ddiffyg cyd-raddoldeb ym Maes B, dywed Sioned Edwards ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol bod “merched wedi bod yn ran fawr o’r trefnu, a bod nifer o ferched yn chwarae yno megis HMS Morris, Chroma a Branwen gyda Candelas. Cafodd Adwaith eu gwahodd i chwarae yno, ond nid oeddent yn gallu ei wneud.”
Teimla Sioned bod y cwynion yn rai annheg iawn.
“Os edrychwch chi ar line-up yr wythnos, fe welwch bod llawer iawn o ferched yn chwarae trwy gydol yr wythnos” meddai Sioned Edwards wrth Y Selar.
“Mae Alys Williams yn hedleinio cyngerdd y pafiliwn, Eden nos Wener ar lwyfan y Maes, Elin Fflur ar y nos Sadwrn ar lwyfan y Maes, ac Ani Saunders yn cau caffi Maes B. Nid un llwyfan sydd ‘da ni ei amserlenu, ond amserlenu’r Eisteddfod gyfan, ry ni’n ceisio ei amrywio fel un pecyn.
“Felly mae’n hollol, hollol annheg i ddweud ein bod ni’n anwybyddu actiau benywaidd. Yn amlwg, nid oes gan yr Eisteddfod bolisi gwahardd merched. Ry ni’n annog mwy o ferched i bigo gitars fyny, yn lle cwyno bod diffyg menywod yn y sîn.”
Band poblogaidd benywaidd arall gafodd gynnig oedd Alys Williams a’r Band, ond “teimlai’r band nad oedd eu cerddoriaeth yn addas” yn ôl Branwen Williams, aelod o’r band.
“Angen dathlu pob llais”
Bethany Celyn yw un o’r enwau sydd am chwarae ar y noson, dywedai nad yr oedd hi’n siomedig o beidio a derbyn cynnig personol gan ei bod hi’n “lais newydd ar y sîn”.
Yn ôl Beth, mae’n cydymdeimlo â’r trefnwyr.
“Fedrai ddychmygu nad hawdd mo’r dasg o drefnu line-up unrhyw ŵyl, amhosib ‘di pesio pawb.”
Ond gwelodd y diffyg artistiaid benywaidd ym Maes B eleni “yn syndod” a hefyd bod enwau coll amlwg o’r line-up “fasa’n medru llenwi llwyfan Maes B llawn cystal â’r bandiau eraill.”
Wrth ymateb i’r cwestiwn ‘Ydy o efallai rywbeth i wneud â’r math o gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae yn hytrach na rhyw?’ meddai Bethany “soniodd Tudur Owen a Dyl Mei ar Radio Cymru ddydd Sadwrn dwytha’ ein bod ni mewn cyfnod euraidd cerddorol yma yng Nghymru gyda chymaint yn creu cerddoriaeth newydd a chyffrous. Mae ein hartistiaid benywaidd yn rhan ganolog o’r cyffro euraidd yma. Da ni angen dathlu pob llais a phob arddull gyfoes ar lwyfan mor ddylanwadol â Maes B, yn enwedig lleisiau marched”.
Ychwanegodd bod llawer o artistiaid a bandiau benywaidd gwych yn gadael eu marc ar yr sin ar hyn o bryd a thu hwnt “mae Adwaith newydd berfformio yng Ngŵyl Latitude!”.
Yn ôl prif drefnydd y gig, Alun Reynolds, mae’n debygol mai nid gig one-off yn unig fydd y Gig Pŵer Genod.
“Ry ni’n anelu am y tro cyntaf, nid y tro olaf. Ry ni hyd yn oed yn sôn am ei gwneud ti’n ŵyl flwyddyn nesaf.”
Roedd yn awyddus i rannu’r ffaith bod pawb ar y leinyp am dderbyn tâl teg trwy rannu’r holl elw yn hollol deg. Ac ei bod hi’n “anheg os yw un band yn cael mwy na’r llall”.
Mae manylion y gig yn parhau i gael eu rhyddhau, a daeth cadarnhad mai’r lleoliad bellach ydy tafarn The Valley, yn y Fali, nid nepell o’r Steddfod ac mai nos Fawrth 8 Awst fydd y dyddiad.
Geiriau: Elin Siriol