Wrth i’r myfyrwyr baratoi i ddychwelyd i Brifysgol Aberystwyth penwythnos yma, bydd ‘na gig go arbennig yn digwydd yn un o adeiladau mwyaf eiconig y dref fel rhan o firi Wythnos y Glas.
Bydd Gig Wythnos y Glas Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth eleni’n cael ei gynnal yn Neuadd Pantycelyn, ac mae llywydd UMCA’n barod iawn i bwysleisio arwyddocâd defnyddio’r lleoliad hwnnw ar gyfer y digwyddiad.
Mae’r leinyp yn cynnwys tri band sydd â chysylltiadau agos iawn â Phrifysgol Aber – Y Cledrau, Mei Emrys a Bwca – ac mae hynny’n addas wrth ystyried mai dyma’r digwyddiad cyntaf mae UMCA wedi gallu ei gynnal ym Mhantycelyn yn ei wythnos agoriadol ers cau’r adeilad fel neuadd llety.
Cynnal ysbryd Pantycelyn
Mae Llywydd UMCA, Gwion Llwyd Williams, yn pwysleisio fod cynnal y gig yn bwysig er mwyn cadw enw Pantycelyn yn fyw ym meddyliau myfyrwyr Cymraeg Aber.
“Teimlaf fydd y gig yn cadw ysbryd Pantycelyn i fynd o fewn yr Undeb, yn enwedig yr aelodau newydd. Pantycelyn yw cartref UMCA a’r gobaith yw bydd y gig yn adlewyrchu hyn.
“Mae’n bwysig nad yw ein aelodau’n anghofio am Pantycelyn a’i rôl wrth sefydlu’r undeb. Pan fydd y neuadd yn ail-agor fel llety i fyfyrwyr Cymraeg yn Medi 2019, mae hi’n bwysig bod yr ysbryd a’r hanes yn dal i fodoli oddi mewn i UMCA.
“Trwy gynnal y gig ym Mhantycelyn bydd y myfyrwyr newydd yn cael eu cyflwyno i’r neuadd, a gyda gobaith yn gweld pwysigrwydd i Pantycelyn wrth gynnal y gymdeithas Gymraeg yma yn Aberystwyth.”
Perthynas a Phantycelyn
Mae perthynas uniongyrchol gan Y Cledrau a Mei Emrys gyda Phantycelyn. Bu Marged Gwenllian, basydd Y Cledrau, yn byw yn y Neuadd yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol, ac roedd Mei Emrys yntau’n byw yno hefyd, yn ogystal â bod yn gyn-lywydd UMCA.
“Mi fydd chwarae’n ffreutur Panty’n rhyfedd…” meddai Marged.
“…fatha chware’n dy lolfa bron, gan mod i wedi byw yno ac efo gymaint o atgofion gwych o’r lle. Mae hi’n siŵr o fod yn gig gwerth chweil!”.