Mae HMS Morris wedi cyhoeddi cyfres o gigs sydd ganddyn nhw ar y gweill dros y cwpl o fisoedd nesaf.
Daw’r newyddion ar ôl cyfnod cymharol dawel i’r grŵp pop amgen ar ôl iddyn nhw ryddhau eu halbwm cyntaf yn yr hydref.
Yn ystod misoedd Ebrill, Mai a Mehefin byddan nhw’n perfformio yng Nghaerdydd, Wrecsam, Llundain, Caerfaddon, Caer a Dartmouth
Dyma’r rhestr gigs yn llawn:
14 Ebrill – Wales Goes Pop, Caerdydd
25 Ebrill – Komedia, Caerfaddon
9 Mai – The Social, Llundain
13 Mai – Focus Wales, Wrecsam
28 Mai – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
23 Mehefin – Chester Live, Caer
1 Gorffennaf – Tafwyl, Caerdydd