Bydd y grŵp ‘pop gofodol’ seicadelig o Ddyffryn Conwy, Omaloma, ymysg yr artistiaid sy’n perfformio yng Ngŵyl Latitude yn Suffolk ym mis Gorffennaf.
Mae’r grŵp, sef prosiect diweddaraf George Amor, gynt o Sen Segur yn perfformio ar lwyfan ‘BBC Music Introducing’ ar ddydd Gwener 14 Gorffennaf.
Bydd ail grŵp Cymraeg hefyd yn perfformio yn yr ŵyl enwog, sef Adwaith o Gaerfyrddin, fydd yn chwarae ar yr un llwyfan ar ddydd Sul 16 Gorffennaf.
Mae cyflwynydd Radio 1 a Radio Cymru, Huw Stephens yn gyfrifol am guradu llwyfan yn yr ŵyl eleni hefyd, sef ‘The Lake Stage’. Bydd cyfle i weld artistiaid Cymraeg ar y llwyfan hwnnw hefyd gyda Casi yn perfformio ar ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf, a Gareth Potter ar ddydd Sul 16 Gorffennaf.
Cynhaliwyd Gŵyl Latitude gyntaf yng Ngorffennaf 2006, ac ers hynny mae wedi datblygu i fod yn un o wyliau cerddorol amlycaf Prydain. Ymysg y prif enwau sy’n perfformio eleni mae The 1975, Mumford and Sons, Fleet Foxes, Placebo a Fatboy Slim.