Fe fydd cyfle arbennig i glywed caneuon EP newydd Ani Glass nos Iau yma wrth iddi ffrydio sesiwn fyw ar wefan ei label, Recordiau Neb.
Bydd yr EP, Ffrwydrad Tawel, yn cael ei ryddhau’n swyddogol ar 21 Ebrill, gyda gig lansio yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd y noson ganlynol.
Ond bydd cyfle i weld Ani yn perfformio caneuon yr EP gyda’r ffrwd fideo byw nos Iau am 19:00.
Dywedodd Ani wrth Y Selar ein bod yn perfformio’r record newydd yn ei chyfanrwydd ar y ffrwd.
Yn ôl y gantores electroneg, bydd y caneuon yn gyfarwydd i bobl sydd wedi gweld ei pherfformiadau byw, ond dyma fydd y cyfle cyntaf i glywed y fersiynau newydd ohonynt.
Mae tipyn o gyffro wedi bod ynglŷn ag EP cyntaf Ani Glass, ac mae’r Selar yn argymell yn gryf eich bod yn taro draw i wefan Recordiau Neb am 19:00 nos Iau!