Go brin fod yna lawer o gerddorion o Gymru’n casglu cymaint o air miles â Gwilym Bowen Rhys ar hyn o bryd.
Dim ond newydd gyrraedd nôl o Dde America ar ôl bod yn teithio yno gyda’r grŵp Plu mae’r cerddor amryddawn, ond mae o rŵan ar ei ffordd i wneud cyfres fach o gigs yn Ffrainc penwythnos yma.
Os nad ydy trip i Ffrainc ar benwythnos rygbi’n ddigon, bydd Gwilym yn teithio i Ffrainc yng nghwmni llwyth o gwrw Cymreig!
Mae bragdy Cwrw Llŷn wedi gefeillio â bar yn ninas Auxerre yng Nghanolbarth Ffrainc, ac mae dau o weithwyr y bragdy’n teithio yno yr wythnos hon gyda llwyth ffresh o gwrw.
Fel rhan o’r pecyn, mae Cwrw Llŷn wedi cynnig rhywfaint o adloniant Cymreig i’r Ffrancwyr ar ffurf Gwilym, sydd wrth gwrs yn dechrau gwneud enw i’w hun fel cerddor gwerin.
“Genai dri gig i gyd” meddai Gwilym wrth Y Selar.
“Un yng nghlwb rygbi Tulle, tre fach i’r gorllewin o Auxerre, a dau gig yn y bar cyfeilliol yn Auxerre – un ohonyn nhw’n syth ar ôl gêm rygbi Cymru a Ffrainc.”
“Dim ond tri ohona ni fydd – fi, ac Iwan a Morgan o’r bragdy. Yn ffrynt eu fan nhw fydda ni’n mynd, fatha bildars!”
Bydd miloedd o Gymry’n mentro i Ffrainc dros y penwythnos, ond y rhan fwyaf i Baris yn hytrach nag Auxerre, ac yn bennaf i yfed cwrw’n hytrach na’i ddarparu! Mae taith Gwil gyda chriw Cwrw Llŷn yn swnio’n hwyl, a bydd yn ddifyr gweld sut ymateb fydd ei gerddoriaeth yn ei gael.
Croeso ym Mhatagonia Celtica
Mae Gwilym yn gyfarwydd iawn â pherfformio i gynulleidfa o dramorwyr ar hyn o bryd, ac os fydd ymateb y Ffrancwyr hanner cystal ag ymateb yr Archentwyr i gerddoriaeth Plu bydd yn ddyn hapus mae’n siŵr.
Mae’r triawd sydd wrth gwrs yn cynnwys dwy chwaer Gwilym, Marged ac Elan, newydd ddod yn ôl o daith i’r Ariannin i berfformio yng Ngŵyl Patagonia Celtica, ac mae’n debyg iddynt gael croeso cynnes dros Fôr yr Iwerydd.
“Ia, gafodd Plu gynnig i ganu yng Ngŵyl Patagonia Celtica yn Esquel ac mi drefnodd yr Archentwyr Cymreig i ni ganu mewn rhyw 5 gig ychwanegol o gwmpas y Wladfa er mwyn cymryd mantais llawn o’n deuddeg diwrnod draw yno.”
“Odd o’n brofiad gwych, gwerthon ni lwyth o CDs a gneud ffrindiau o dros dde America i gyd.”
Tydi hi’n ddim syndod o gwbl i’r Selar bod y triawd wedi llwyddo i swyno cynulleidfaoedd yr Ariannin, ac rydan ni’n ddigon hyderus y bydd gwahoddiad i Plu ddychwelyd yno’n y dyfodol agos.