Llongyfarchiadau mawr i’r grŵp o Bontypridd, Chroma, a gipiodd y wobr am yr ‘Artist Newydd Gorau’ yng Ngwobrau Cerddoriaeth Caerdydd neithiwr.
Roedd y gwobrau’n cael eu cynnal am yr ail waith, gyda noson wobrwyo yn y Tramshed yn Grangetown neithiwr.
Roedd Chroma’n perfformio ar y noson, ac roedd Y Selar yn falch iawn i glywed mai nhw gipiodd y wobr am yr Artist Newydd Gorau.
Mae wedi bod yn flwyddyn dda i Chroma – enillodd y grŵp gystadleuaeh Brwydr y Bandiau Radio Cymru / Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni fis Awst diwethaf, ac roedden nhw hefyd ar restr fer categori ‘Band Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar ddechrau’r flwyddyn.
Fel mae’n digwydd, gallwch chi ddal Chroma’n perfformio yn y brifddinas heno wrth iddyn nhw gloi rownd ragbrofol olaf Brwydr y Bandiau eleni yng Nghlwb Ifor Bach. Mabli Tudur a Jac Ellis sy’n cystadlu am slot yn y rownd derfynol ar faes yr Eisteddfod yn Ynys Môn fis Awst.