Mae manylion lein-yp gerddoriaeth gŵyl gelfyddydol newydd ym Mangor, Gŵyl Noddfa, wedi’u cyhoeddi.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn Neuadd Hendre, Tal-y-bont ar ddydd Sul 28 Mai, gan ddechrau am hanner dydd.
Ymysg yr artistiaid cerddorol fydd yn perfformio mae’r bandiau Cymraeg Yucatan, Phalcons, Piwb a Pasta Hull.
Prif fand y digwyddiad ydy’r grŵp ffync roc seicadelig, Big Love & The Fuzz.
Nid dim ond cerddoriaeth sydd yn yr ŵyl, mae hefyd yn cynnwys llwyth o weithgareddau barddoniaeth, comedi, celf weledol, sgyrsiau, gweithdai, cynnyrch lleol a llawer iawn mwy.
Mae’r ŵyl yn cael ei threfnu ar y cyd rhwng Noddfa a Club dB. Menter gymunedol ym Mangor ydy Noddfa, sy’n cael ei arwain gan Llŷr Alun Jones, ac sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth fyw, arddangosfeydd celf a phrosiectau cymunedol eraill.
Mae Noddfa wedi bod yn trefnu gigs, a digwyddiadau celfyddydol rheolaidd eraill ym Mangor ers peth amser ond yr ŵyl fydd eu prosiect mwyaf hyd yma.
Yn ôl y trefnwyr, byddan nhw’n cyhoeddi rhagor o wybodaeth am yr ŵyl yn fuan.