Mae Gŵyl Nôl a Mla’n wedi cyhoeddi dyddiad penwythnos yr ŵyl flynyddol, a gynhelir yn Llangrannog, ar gyfer 2018.
Dyma un o wyliau bach mwyaf poblogaidd Cymru ar hyn o bryd, gyda channoedd o bobl yn heidio i Langrannog ers sawl blwyddyn i fwynhau rhai o artistiaid gorau Cymru mewn lleoliad unigryw a godidog ar lân y Môr ym Mae Ceredigion.
Bydd yr ŵyl yn digwydd 6-7 Gorffennaf flwyddyn nesaf. Nid ydynt wedi cyhoeddi’r artistiaid eto – ond ar sail arlwy y blynyddoedd diwethaf mae’n weddol sicr y bydd hi’n benwythnos i’w chofio.
Mae Meic Stevens, Huw Chiswell, Candelas, Yws Gwynedd, Elin Fflur, Yr Eira a Sŵnami ymysg rhai o’r degau o enwau sydd wedi chwarae yn yr ŵyl dros y blynyddoedd.