Label o’r Almaen i ryddhau casgliad Malcolm Neon

Bydd label recordiau o’r Almaen yn rhyddhau casgliad o ganeuon gan yr artist Cymraeg amgen Malcolm Neon.

Mae label Vinyl on Demand wedi cyhoeddi ar eu gwefan eu bod nhw’n rhyddhau LP dwbl o ganeuon Malcolm, ac mae Y Selar yn deall bydd y record allan erbyn mis Awst eleni.

Malcolm Neon oedd enw llwyfan y cerddor o Aberteifi, Malcolm Gwyon, sydd bellach yn artist celf adnabyddus ac roedd yn weithgar iawn yn rhyddhau cerddoriaeth arbrofol ar label casetiau ein hun, Casetiau Neon, ar ddechrau’r 1980au.

Mae’n siŵr bod Casetiau Neon wedi cael mwy o sylw dros y blynyddoedd diwethaf am y ffaith mai’r label oedd yn gyfrifol am ryddhau gwaith cynnar Datblygu – fe wnaeth Ankstmusik ail-ryddhau nifer o’r casetiau hyn ar y casgliad ‘Datblygu 1982-1984 Y Tapiau Cynnar’ nôl yn 2013. Ond teg dweud bod gwaith Malcolm Neon ei hun yr un mor arloesol â cherddoriaeth gynnar Datblygu, gan arbrofi gyda synau synthpop electronig mewn modd na welwyd yn y Gymraeg cyn hynny.

Bu i Neon ryddhau nifer o EPs ac albyms ar gasetiau rhwng 1980 a 1985, a cyhoeddodd Recordiau Fflach gasgliad o’i waith o’r enw ‘Heno Bydd yr Angylion yn Canu’ ym 1992.

Nawr, mae label tra gwahanol yn bwriadu cyhoeddi casgliad ganddo – mae label Vinyl on Demand wedi’i lleoli yn ninas Friedrichshafen yn Yr Almaen ac yn arbenigo mewn cerddoriaeth arbrofol ac electroneg. Maen nhw’n canolbwyntio ar ryddhau cynnyrch prin ac arloesol gan artistiaid oedd yn rhyddhau’n aml ar gaset yn unig yn yr 80au cynnar. Hawdd gweld sut mae gwaith Malcolm Neon wedi dal eu llygad felly.

Mae’r label hefyd yn arbennig gan mai nifer cyfyngedig o’r recordiau maen nhw’n eu ryddhau fel arfer, a nifer o’r rhain yn cael eu hanfon yn syth i danysgrifwyr sy’n derbyn copi o holl recordiau’r label.