Lansiad EP Lastigband yn Pesda Roc

Mae Lastigband, y grŵp sydd wedi gwreiddio o hedyn aelodaeth Sen Segur a Memory Clinic, yn rhyddhau eu EP cyntaf y penwythnos yma.

Bydd lansiad swyddogol yr EP newydd, sy’n cael ei ryddhau’n ddigidol ar label Dan Amor, Recordiau Cae Gwyn, yn digwydd yn gig Pesda Roc yn Neuadd Ogwen nos Sadwrn.

‘Torpido’ ydy enw’r casgliad byr newydd, ac mae’n cynnwys pedair o ganeuon sef ‘Jelo’, ‘Ti’n Rhydd’, ‘Arnofio’ a ‘Rhedeg’. Gallwch wrando ar un ohonynt, ‘Jelo’ ar safle Soundcloud Cae Gwyn nawr (ac isod).

Recordiwyd yr EP yn Stiwdio Drwm, sef y stiwdio mae Osian Huw ac Ifan Emlyn o Candelas bellach yn rhedeg, nôl ym mis Tachwedd 2015 dan arolygaeth y cynhyrchydd Llŷr Pari.

Yn ôl Geth o’r grŵp, mae’r gerddoriaeth yn eithaf arbrofol gyda “lot o gitars a dipyn o fynd mewn rhannau o’r caneuon”.

Os ydach chi’n dilyn cyfrif Twitter Recordiau Cae Gwyn byddwch efallai wedi clywed bod y trac ‘Ti’n Rhydd’ o’r EP eisoes wedi cael ei chwarae gan orsaf radio amgen WUNH yn yr Unol Daleithiau, a ‘Jelo’ wedi’i chwarae ar orsaf Radio Free Brooklyn yn Efrog Newydd. Mae’n debyg bod gorsafoedd yn Llundain ac Yr Iseldiroedd wedi bod yn chwarae traciau o’r EP hefyd – chwarae teg, mae Dan Amor yn giamstar ar gael airplay ar orsafoedd radio randym mewn gwahanol rannau o’r byd!

Ac mae dau gyfle i glywed caneuon yr EP newydd yn fyw penwythnos yma – yn y gig lansio nos Sadwrn, neu mewn gig yn Neuadd Tyn y Porth, Penmachno nos Wener.

Gigs Lastigband penwythnos yma:

Gwener 28 Ebrill – Neuadd Tyn y Porth, Penmachno

Sadwrn 29 Ebrill – Pesda Roc – Neuadd Ogwen, Bethesda